Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(08:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(08:30-08:35) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(08:35-09:30) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 4 Richard
Jones, Pennaeth Gwasanaeth, Asiant Cefnffyrdd De Cymru Dave Cooil,
Pennaeth Gwasanaeth, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru Ian Hughes,
Rheolwr Busnes a Gweithrediaeth Statudol, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a
Chanolbarth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Asiant Cefnffyrdd
De Cymru ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ynglŷn â'i
ymchwiliad i werth am arian buddsoddi mewn traffyrdd a chefnffyrdd. Cytunodd yr
Asiantau Cefnffyrdd i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am gydgysylltu'r
gwaith o gynnal a chadw a gwella traffyrdd a chefnffyrdd a heolydd lleol, a
nifer y blynyddoedd na chafwyd cadarnhad ar gyfer eu dyraniad o'r gyllideb tan
ar ôl 1 Ebrill. |
|
(09:30-10:45) |
Trefniadau llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Sesiwn dystiolaeth 1 Yr Athro
Trevor Purt, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Dr Peter
Higson OBE, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Geoff Lang, Cyfarwyddwr
Gweithredol Strategaeth, Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch ei drefniadau llywodraethu. 4.2 Cytunodd Dr Higson i ddarparu gwybodaeth
ychwanegol mewn perthynas â: ·
hynt
trafodaethau'r bwrdd ynghylch Ysbyty Glan Clwyd gan gynnwys materion recriwtio; ·
‘Well
North’; ·
gohebiaeth
mewn perthynas ag Ysbyty Glan Clwyd, yn enwedig y llyfryn; ·
hyfforddiant
ar gyfer aelodau'r bwrdd; ·
dangosyddion
perfformiad. |
|
(10:45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:45-11:00) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod y dystiolaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |