Agenda
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 217
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. |
|
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad |
|
(60 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) NDM8599 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 26.91: Yn
cytuno y caiff Mark Isherwood AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a
gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 31 Mai
2024 o dan Reol Sefydlog 26.91A. |
|
(0 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gofal iechyd menywod - Gohiriwyd NDM8566 Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu bod poen
corfforol ac emosiynol menywod yn cael ei normaleiddio yn eu gofal iechyd, yn
ogystal â'r disgwyliad bod poen yn agwedd anffodus ar iechyd menywod ond yn un
na ellir ei hosgoi. 2. Yn credu, drwy
ymgynghori â gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod, y dylai
gweithwyr iechyd proffesiynol anelu at leihau sefyllfaoedd lle y mae poen yn
ddisgwyliedig ac yn cael ei dderbyn fel rhywbeth normal yng ngofal iechyd y
GIG. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) cryfhau'r
disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau'r GIG yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd
menywod a merched; b) sefydlu gofyniad
cyfreithiol i ddarparwyr gofal iechyd gasglu adborth yn rheolaidd gan gleifion
benywaidd am eu profiadau a'u bodlonrwydd â'r gofal a gânt, yn enwedig mewn
perthynas ag apwyntiadau gynaecolegol, bydwreigiaeth a gwasanaethau ôl-enedigol,
iechyd meddwl amenedigol a menopos; ac c) cyflwyno
rhwymedigaethau statudol ar gyfer datblygu, cydgysylltu a gweithredu'r Cynllun
Iechyd Menywod a ddatblygwyd gan GIG Cymru y mae gynaecolegwyr, bydwragedd a
grwpiau iechyd menywod wedi ymgynghori arno, a ddylai gynnwys mesurau i fynd
i'r afael â normaleiddio poen ym maes gofal iechyd menywod, ac i’w atal. Cyd-gyflwynwyr Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Carolyn Thomas
(Gogledd Cymru) Cefnogwyr Mabon ap
Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru) |
|
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffordd osgoi Cas-gwent NDM8618 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod
manteision ffyrdd osgoi o ran cefnogi economïau lleol a lleihau tagfeydd. 2. Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid i Gyngor Sir Fynwy ddatblygu cynlluniau ar
gyfer ffordd osgoi Cas-gwent. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Swydd
Gaerloyw i ddarparu ffordd osgoi Cas-gwent. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y
problemau o ran tagfeydd yng Nghas-gwent. 2. Yn cydabod yr angen
am rwydwaith trafnidiaeth integredig, deniadol a chynaliadwy sy’n cefnogi twf
yn yr ardal. 3. Yn cefnogi dull
Llywodraeth Cymru o weithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Sir
Fynwy a Chyngor Swydd Gaerloyw i ystyried opsiynau ar gyfer gwella’r rhwydwaith
ffyrdd, darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus a darpariaeth teithio llesol i wella
teithio yng Nghas-gwent. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi yn eu lle: Yn credu y dylid
ymgymryd â datblygiadau seilwaith mewn ymgynghoriad llawn â chymunedau ac
yn unol ag anghenion cymunedau a nodwyd. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio i ddarparu seilwaith newydd i leddfu tagfeydd yn unol â'r
egwyddorion hyn, gan gynnwys darparu trydydd bont y Fenai, a ffyrdd osgoi yn
Llandeilo a Chas-gwent. Yn
galw ar Lywodraeth nesaf y DU i sicrhau setliad ariannu teg ar gyfer Cymru, a'r
£4 biliwn mewn symiau canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru o HS2, i ddarparu'r
cyllid sydd ei angen i wella'r seilwaith trafnidiaeth a'r seilwaith ffyrdd yng
Nghymru er mwyn lleddfu tagfeydd. |
|
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Niwclear NDM8617 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn dathlu rôl ynni
niwclear wrth greu swyddi â chyflog da a sgiliau uchel, wrth sicrhau ynni
rhatach, glanach a mwy diogel, gan weithio tuag at dargedau sero-net. 2. Yn croesawu ymrwymiad
parhaus Llywodraeth y DU i arf ataliol trident y DU. 3. Yn croesawu ymhellach
ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu gorsaf ynni gigawatt newydd yn yr Wylfa
yng Ngogledd Cymru a gweithio gyda'r diwydiant i ddarparu prosiectau presennol
yn Hinkley Point a Sizewell. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ehangu ynni niwclear yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi
swyddogaeth ynni niwclear ochr yn ochr ag ynni adnewyddadwy yng nghynlluniau
Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid gwyrdd a theg i economi carbon isel, gan
sicrhau bod yr holl ynni newydd a gynhyrchir yng Nghymru yn ynni allyriadau
sero. 2. Yn galw ar Lywodraeth
newydd y DU i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ystyried yn llawn
yr holl opsiynau ar gyfer gorsaf newydd yn yr Wylfa a chyfleoedd yn y dyfodol
ar gyfer Trawsfynydd, gan gydnabod pwysigrwydd allweddol cydweithio mewn
perthynas â'r pwerau datganoledig perthnasol. 3. Yn croesawu
swyddogaeth flaengar Llywodraeth Cymru, wrth gydweithio â Llywodraeth y DU, y
diwydiant a phartneriaid, er mwyn cefnogi ynni niwclear yng Nghymru er
mwyn gwneud y gorau o’r manteision economaidd-gymdeithasol ar gyfer Cymru. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd 1. Yn dathlu bod gan
Gymru yr adnoddau naturiol i fod ar flaen y gad o ran cynhyrchu ynni glân,
adnewyddadwy. 2. Yn credu, os caiff ei
ariannu'n briodol, y gallai ailddatblygiad arfaethedig safle'r Wylfa greu
swyddi sgiliau uchel ar gyfer Ynys Môn. 3. Yn galw ar Lywodraeth
nesaf y DU i: a) datganoli pwerau
llawn dros Ystâd y Goron i Gymru, er mwyn sicrhau bod ein cymunedau'n gallu
elwa'n llawn ar ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr fel dewisiadau
amgen hyfyw yn lle gorsafoedd ynni niwclear newydd; a b)
sicrhau bod datblygiad safle'r Wylfa yn cyd-fynd yn llawn ag anghenion y
gymuned leol. |
|
Cyfnod Pleidleisio |
||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8590 Rhys ab Owen
(Canol De Cymru) Gweithwyr
Allied Steel and Wire a chyfiawnder pensiwn. |