Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/12/2021 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd, David Rees AS, yr Aelodau a'r tystion i'r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies AS; daeth James Evans AS yn ei le. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau buddiant.

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd fod y cyhoedd wedi’u gwahardd o gyfarfod y Pwyllgor at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd.

(14.00-15.30)

2.

Adferiad ar ôl COVID-19 a phwysau'r gaeaf ar wasanaethau cyhoeddus

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng COVID-19

Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog ar bolisiau yn ymwneud ag yr adferiad ar ôl COVID-19 a phwysau’r gaeaf ar wasanaethau cyhoeddus.

(15.30-16.00)

3.

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Materion amserol

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gofynnodd Aelodau gwestiynau ar faterion amserol i’r Prif Weinidog.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

5.

Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y cyfarfod blaenorol.