Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/05/2024 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1384 Cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud yn orfodol cael diffibriliwr mewn gweithleoedd a chlybiau chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb Llywodraeth Cymru a oedd yn nodi nad yw'n credu mai cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau bod darparu diffibrilwyr yn orfodol yw'r peth gorau i’w wneud. Yn sgil hyn cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn.

 

Yn ogystal â chau’r ddeiseb, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu llythyr pellach at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn i Lywodraeth Cymru annog clybiau chwaraeon, ysgolion, a grwpiau cymunedol ledled Cymru i ystyried manteision gosod diffibriliwr ar y safle.

 

2.2

P-06-1394 Dylid ymyrryd yn natblygiad Parc Arfordirol Penrhos yn gyrchfan wyliau ar Ynys Môn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod adolygiad barnwrol ar ei ganol ar hyn o bryd ynghylch y datblygiad hwn. Yng ngoleuni hyn cytunodd yr Aelodau i ystyried y ddeiseb ar ôl cwblhau'r adolygiad barnwrol.

 

2.3

P-06-1410 Dylid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r enw 'Anglesey' a defnyddio’r enw 'Ynys Môn' yn unig neu’r enw byrrach 'Môn'.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd mai mater i'r awdurdod lleol yn y pen draw fyddai newid enw'r sir. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau nad oes dim byd pellach y gallent ei wneud fel Pwyllgor heblaw ysgrifennu at Gyngor Ynys Môn i dynnu sylw at y ddeiseb ac i ofyn a roddwyd unrhyw ystyriaeth i un enw. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

2.4

P-06-1414 Paratoi cais i Gymru gystadlu yng Nghystadleuaeth yr Eurovision

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU), gan anfon copi i S4C, i ofyn am ragor o wybodaeth am beth fyddai’r broses i Gymru allu ymuno â Chystadleuaeth yr Eurovision neu gyflwyno cais iddi. Derbyniodd y Pwyllgor fod safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir ac felly byddai’n cau’r ddeiseb, a byddai’n sicrhau bod unrhyw ymateb gan yr EBU yn cael ei ddangos i’r Aelodau, i’w galluogi i ddilyn y mater fel Aelodau unigol.

 

2.5

P-06-1417 Dylid gwahardd tân gwyllt o siopau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y mater yn amlwg yn fater pwysig ond cymhleth, gan fod y pwerau i reoleiddio tân gwyllt yn aros gyda Llywodraeth y DU. Yng ngoleuni hyn, cytunwyd nad oes llawer rhagor y gallant ei wneud fel Pwyllgor a chafodd y ddeiseb ei chau a diolchwyd i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn a rhannu ei phrofiad i dynnu sylw at y peryglon a'r risgiau cysylltiedig.

 

2.6

P-06-1413 Dileu’r terfynau 50mya ar yr M4 ger Casnewydd ac Abertawe ac ar yr A470 ger Pontypridd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cadeirydd y dylid ystyried y ddeiseb hon ar y cyd â P-06-1416 Cynyddu'r terfyn cyflymder ar yr M4 yn ôl i 70mya.

 

Datganodd Peter Fox AS a John Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'r ddau yn ddefnyddwyr cyson o'r M4.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er y gall fod yn rhwystredig gyrru ar derfyn cyflymder islaw'r terfyn cyflymder y cynlluniwyd y ffordd ar ei gyfer, mae'r dystiolaeth yn glir bod y gostyngiad yn y terfyn cyflymder yn gwella ansawdd aer i drigolion lleol. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau nad oes llawer rhagor y gallant ei wneud fel Pwyllgor ar wahân i barhau i fonitro a herio terfynau cyflymder fel Aelodau unigol o’r Senedd, ac wrth i bethau symud ymlaen gyda thechnolegau gwyrddach ac arbedion effeithlonrwydd eraill.

 

2.7

P-06-1416 Cynyddwch y terfyn cyflymder ar yr M4 yn ôl i 70mya

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cadeirydd ystyried y ddeiseb hon ar y cyd â P-06-1413 Dileu’r terfynau 50mya ar yr M4 ger Casnewydd ac Abertawe ac ar yr A470 ger Pontypridd.

 

Datganodd Peter Fox AS a John Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'r ddau yn ddefnyddwyr cyson o'r M4.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er y gall fod yn rhwystredig gyrru ar derfyn cyflymder islaw'r terfyn cyflymder y cynlluniwyd y ffordd ar ei gyfer, mae'r dystiolaeth yn glir bod y gostyngiad yn y terfyn cyflymder yn gwella ansawdd aer i drigolion lleol. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau nad oes llawer rhagor y gallant ei wneud fel Pwyllgor ar wahân i barhau i fonitro a herio terfynau cyflymder fel Aelodau unigol o’r Senedd, ac wrth i bethau symud ymlaen gyda thechnolegau gwyrddach ac arbedion effeithlonrwydd eraill.

 

2.8

P-06-1415 Rhoi ffordd liniaru’r M4 ger Twneli Bryn-glas yn ne Cymru ar waith.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cadeirydd y dylid ystyried y ddeiseb hon ar y cyd â deiseb P-06-1421 Cynnal arolwg barn cyhoeddus ar a ddylid adeiladu Ffordd Liniaru’r M4, a gweithredu’r canlyniad ar unwaith.

 

Datganodd John Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n ddefnyddiwr cyson o'r M4.

 

Datganodd Peter Fox AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n byw yn y De Ddwyrain ac o fewn ardal Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwent.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymateb a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. Lleisiodd yr Aelodau eu pryderon, nid yn unig y byddai goblygiadau ariannol o redeg cynllun o'r fath ond hefyd y byddai effaith sylweddol ar yr amgylchedd.

 

Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

2.9

P-06-1421 Cynnal arolwg barn cyhoeddus ar a ddylid adeiladu Ffordd Liniaru’r M4, a gweithredu’r canlyniad ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cadeirydd ystyried y ddeiseb hon ar y cyd â deiseb P-06-1415 Rhoi ffordd liniaru’r M4 ger Twneli Bryn-glas yn ne Cymru ar waith.

 

Datganodd John Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n ddefnyddiwr cyson o'r M4.

 

Datganodd Peter Fox AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n byw yn y De Ddwyrain ac o fewn ardal Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwent.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymatebion a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. Lleisiodd yr Aelodau eu pryderon, nid yn unig y byddai goblygiadau ariannol o redeg cynllun o'r fath ond hefyd y byddai effaith sylweddol ar yr amgylchedd.

 

Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

2.10

P-06-1423 Adfer gwasanaeth bws arfordirol 552 y Cardi Bach yn Ne Ceredigion!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor tra'n aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.5

P-06-1344 Dylid defnyddio tir amaethyddol o ansawdd cymedrol (gradd 3b) ar gyfer diogeledd bwyd ac nid ar gyfer ffermydd solar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ofyn am atebion i ymateb y deisebwyr i adroddiad Llywodraeth Cymru.

 

3.2

P-06-1403 Ailystyried toriadau i gyllid ôl-raddedig a chynyddu benthyciadau doethuriaeth i gyfateb ag ariantal Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am ymateb i’r pryderon ychwanegol a nodwyd gan y deisebydd. 

 

4.

Papur i'w nodi - P-06-1387 Darparu cymorth dyngarol i Gaza

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol at y ddeiseb a’r ohebiaeth a ddaeth i law hyd yma, gan fod y ddeiseb bellach yn rhan o’i chylch gwaith.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Adroddiad drafft - P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad yn amodol ar fân newidiadau.