Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/10/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: |
|
Sesiwn dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol. Simon Gilbert,
Pennaeth Cynllunio – Cyngor Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Gilbert, Pennaeth Cynllunio, Cyngor Caerdydd. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd ddeiseb P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth
ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â’r hyn sydd ar
gael yn Lloegr, a ystyriwyd yn y cyfarfod diwethaf. Cytunodd yr
Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch y ddwy ddeiseb i dynnu sylw
at y materion a godwyd gan Oxfam Cymru a gofyn am eglurder pellach cyn
penderfynu ar y camau nesaf i'w cymryd.
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1334 Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i dynnu sylw’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
ati, a dychwelyd ati pan fydd trafodion Cyfnod 1 y Bil Etholiadau a Chyrff
Etholedig (Cymru) wedi dod i ben. |
|
P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn - a oedd yn cynnwys apêl gan
Aelod i'w hysbysu am gynnydd. Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor a
gofyn am ddiweddariad ar y sefyllfa ymhen 12 mis. |
|
P-06-1299 Dylai "Rhewi ar adeiladu ffyrdd" Llywodraeth Cymru gynnwys cymal ar gyfer achosion sy'n peri perygl i fywyd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at gyngor Rhondda Cynon Taf i
ofyn am atebion i nifer o gwestiynau gan gynnwys:
|
|
Sesiwn dystiolaeth - P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod Darren Joyce,
Cyfarwyddwr the Friendly Trust Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Darren Joyce, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth
Gyfeillgar. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd. |
|
Trafod y dystiolaeth - P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd. |