Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/06/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw
ymddiheuriadau. Gwnaed y
datganiadau o fuddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A – datganodd Vaughan
Gething fuddiannau perthnasol mewn perthynas â geiseb P-06-1373 – Eitem 3.3 –
oherwydd ei fod wedi gwneud penderfyniadau fel Gweinidog i gefnogi'r prosiect
hwnnw – ac mewn perthynas â deiseb P-06-1488 – Eitem 3.4 – oherwydd ei fod wedi
gwneud cyfres o benderfyniadau fel y Gweinidog Iechyd yn ystod y pandemig
COVID-19. Nid oedd o’r farn y dylai gymryd unrhyw ran yn y trafodaethau na'r
penderfyniadau ar y ddwy eitem hynny. |
|
|
Deisebau newydd |
|
|
P-06-1503 Dylid gosod paneli solar ar y ddaear wrth ochr ffyrdd a rheilffyrdd, mewn ardaloedd diwydiannol a thros feysydd parcio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Diolchodd y
Pwyllgor i'r deisebydd am dynnu sylw at fater yr oedd yr Aelodau yn ei gefnogi.
Ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynigion mewn sawl un o'r
meysydd a amlinellir yn y ddeiseb, a bydd y mater hefyd yn parhau’n destun
gwaith craffu gan y Senedd. Felly, cytunwyd y byddai'r Aelodau'n parhau i gadw
llygad ar y mater, ond y byddai’r ddeiseb yn cael ei chau. |
|
|
P-06-1511 Ailadeiladwch Arsyllfa Goll Caerdydd yn Amgueddfa Sain Ffagan "Creu stori Cymru gyda'n gilydd" Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn dilyn
trafodaeth, cytunwyd y dylid cau'r ddeiseb, ond hefyd y dylid ysgrifennu at
Gymdeithas Seryddol Caerdydd ac Archifau Morgannwg i ofyn am leoliad y
cynlluniau gwreiddiol ar gyfer yr arsyllfa, ac i sicrhau bod yr ymatebion i’r
ohebiaeth hon ar gael i'r cyhoedd. |
|
|
P-06-1512 Galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod a mynd i’r afael â’r argyfwng deintyddol sy’n wynebu cleifion yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunwyd y dylid
cau'r ddeiseb, o ystyried y proffil uchel sydd gan y mater hwn eisoes yn y
Senedd. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i dynnu sylw'r Pwyllgor Iechyd a
Gofal Cymdeithasol at y ddeiseb, o ystyried gwaith blaenorol y Pwyllgor hwnnw
ar y mater hwn. |
|
|
P-06-1528 Dylid atal cleifion o Bowys a gaiff eu trin mewn ysbytai dros y ffin yn Lloegr rhag wynebu amseroedd aros hwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gyfeirio'r ddeiseb at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n
gyfrifol am graffu ar berfformiad a chyllid y GIG, ac wrth wneud hynny i
gynnwys yr ohebiaeth gysylltiedig a ddaeth i law gan Russell George AS. Hefyd,
cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yn nghyd-destun ei gyhoeddiad y bydd £120 miliwn yn cael ei
ddarparu i helpu i leihau amseroedd aros, gan ofyn faint o'r apwyntiadau a
grybwyllwyd i leihau maint cyffredinol y rhestr aros fydd ar gael i gleifion yn
ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, a sut y bydd y cyllid hwn o fudd i gleifion
ym Mhowys sydd ar y rhestr aros. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at
Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i ofyn pa asesiad a wnaed ganddynt o effaith y
penderfyniad i gymhwyso targedau GIG Lloegr. Cytunwyd y byddai'r ddeiseb yn
cael ei chau ac y byddai’r ymatebion i’r ohebiaeth yn cael eu hanfon ymlaen at
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. |
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
|
P-06-1317 Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y gwaith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu cynllun gweithlu, a chytunodd i dynnu
sylw'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y ddeiseb er mwyn codi
ymwybyddiaeth o’r mater hwn, yn ogystal â diolch i'r deisebydd a chau'r
ddeiseb. |
|
|
P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru? Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
at bryderon ac argymhellion y deisebwyr a gofyn am ei ymateb iddynt. Byddai'r
ddeiseb yn cael ei chadw ar agor tra'n disgwyl ymateb ganddo. Bydd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn cael copi o'r ohebiaeth i godi
ymwybyddiaeth o’r materion perthnasol. |
|
|
P-06-1373 Dylid atal Llywodraeth Cymru rhag gwastraffu £4 miliwn ar ddatblygiad preifat “Skyline” ar Fynydd Cilfái, Abertawe. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ei fod wedi ymdrin â'r materion sydd o fewn cwmpas derbyniadwyedd y ddeiseb
ac y byddai’n cau'r ddeiseb o ganlyniad i hynny. Wrth wneud hynny, cytunwyd y
dylid ysgrifennu at y pum Aelod lleol o’r Senedd i dynnu sylw at y gohebiaeth
ddiweddaraf er mwyn i'r Aelodau hynny fynd ar drywydd y mater hwn yn y dyfodol. |
|
|
P-06-1488 Sefydlu ‘Cymdeithas Gofal’ i Fynd i’r Afael â’r Argyfwng COVID Hir yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Wrth drafod y
ddeiseb, nodwyd bod y materion perthnasol yn cael eu cyfeirio atynt yn
rheolaidd yn y Senedd, ond na allai'r Pwyllgor Deisebau eu dwyn ymlaen.
Cytunwyd i anfon yr ymatebion a gafwyd ymlaen at y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, fel y pwyllgor arbenigol, ac i ddiolch i'r deisebwyr cyn cau'r
ddeiseb. |
|
|
P-06-1491 Rydym yn mynnu bargen deg i drigolion yr effeithir arnynt gan y cynllun Arbed/y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn dilyn
trafodaeth, o gofio ei bod yn annhebygol y byddai unrhyw bwyllgor arall yn
gallu edrych ar y mater hwn, cytunodd y Pwyllgor y dylid cadw llygad ar y mater
cyn trafod y ddeiseb eto, yn ogystal ag unrhyw gynnydd a wnaed yn erbyn y
cynlluniau presennol, yn gynnar yn y flwyddyn newydd. |
|
|
Papurau i'w nodi |
|
|
P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau
y papur. |
|
|
P-06-1525 Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau
y papur. |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Cynigiwyd y dylid
gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Derbyniwyd y cynnig. |
PDF 199 KB