Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
09:30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick
Antoniw AS. Dirprwyodd Julie Morgan AS ar ei ran. |
|
09:30 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3 ac 8. Cofnodion: 2.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
09:30-10:00 |
Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE – Trafod y bennod ddrafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor y bennod ddrafft, a chytunodd i
wneud rhai newidiadau. |
|
10:00-10:40 |
Ymchwiliad i Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru – Sesiwn dystiolaeth gydag Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan AS
– Prif Weinidog Andrew Gwatkin - Cyfarwyddwr
– Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach David Warren - Pennaeth Cysylltiadau Rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Holodd yr Aelodau y tystion fel rhan o ymchwiliad y
Pwyllgor i strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru. 4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion gydag
unrhyw gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn hon. |
|
10:50-11:30 |
Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru – Sesiwn dystiolaeth gydag Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan AS
– Prif Weinidog Andrew Gwatkin - Cyfarwyddwr
– Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach David Warren - Pennaeth Cysylltiadau Rhyngwladol Cofnodion: 5.1. Holodd yr Aelodau y tystion ynghylch cysylltiadau
rhyngwladol Llywodraeth Cymru. 5.3 Cytunodd y Prif
Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn egluro sut y gellir datblygu concordat
ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol. 5.4 Cytunodd un o'r
swyddogion i ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi pa effaith y mae adroddiad y
Pwyllgor, 'Sioc Ddiwylliannol', wedi'i chael ar Lywodraeth Cymru. 5.5 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion gydag
unrhyw gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn hon. |
|
11:30 |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 6.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
|
Cymraeg i bawb? Dogfennau ategol: |
||
|
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Dogfennau ategol: |
||
11:30 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 10 Gorffennaf 2025 Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. 7.2 Cytunodd y Pwyllgor mai Heledd Fychan AS fydd yn
cadeirio'r cyfarfod ar 10 Gorffennaf 2025. |
|
11:30-12:15 |
Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a materion allweddol Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a’r
prif faterion. |
PDF 135 KB