Cymraeg i bawb?

Cymraeg i bawb?

Inquiry4

 

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad archwiliadol sy’n edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ledled Cymru, ac yn arbennig mewn ardaloedd sydd â llai o siaradwyr Cymraeg.

 

Mae deall y rhwystrau amlwg i ddefnydd iaith, sut i ddatblygu hyder a newid ymddygiad ieithyddol fel bod pobl yn dechrau defnyddio mwy o’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd yn allweddol i hyfywedd yr iaith ym mhob cymuned. Mae’r heriau hynny ar eu mwyaf mewn ardaloedd lle nad yw’r iaith yn cael ei siarad yn eang, a lle mae angen ymyriadau â ffocws.

 

Nod yr ymchwiliad yw:

>>>> 

>>> Archwilio’r rhwystrau a’r cyfleoedd allweddol i ddefnyddio’r Gymraeg ledled Cymru, ond gan ganolbwyntio ar ardaloedd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg;

>>> Archwilio dulliau, technegau ac ymyriadau, gan gynnwys technoleg, a all annog newid ymddygiad a datblygu hyder fel bod mwy o bobl yn defnyddio rhywfaint o Gymraeg bob dydd;

>>> Ystyried effeithiolrwydd mentrau sy’n anelu at greu’r amodau a’r gofodau i annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg;

>>> • Deall i ba raddau y mae digwyddiadau diwylliannol, fel yr Eisteddfodau a gwyliau Cymraeg, yn effeithio ar ddefnydd iaith mewn ardaloedd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg

<<< 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/12/2024

Dogfennau

Ymgynghoriadau