Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/10/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Heledd Fychan AS.

(09.30)

2.

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

Cofnodion:

2.1 Etholodd y Pwyllgor Alun Davies AS yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22 ar gyfer y pedair eitem gyntaf o fusnes yn y cyfarfod ar 13 Hydref 2022.  Enwebwyd Alun Davies MS gan Hefin David MS.

(09.30-10.30)

3.

Ymchwiliad undydd i effaith costau cynyddol: Sesiwn dystiolaeth gyda chyrff chwaraeon

Jennifer Huygen, Pennaeth Polisi a Phartneriaethau Strategol, Community Leisure UK

Andrew Howard, Prif Weithredwr, Cymdeithas Chwaraeon Cymru

Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus, Chwaraeon Cymru

 

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Ymatebion i’r ymgynghoriad

Ymateb i’r ymgynghoriad gan Community Leisure UK Cymru

Papur briffio ar y cyd gan Community Leisure UK Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad gan Gymdeithas Chwaraeon Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad gan Chwaraeon Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Community Leisure UK, Cymdeithas Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Cymru.

(10.40-11.40)

4.

Ymchwiliad undydd i effaith costau cynyddol: Sesiwn dystiolaeth gyda chyrff diwylliannol

Michael Elliott, Prif Weithredwr Dros Dro, Cyngor Celfyddydau Cymru

Mark Davyd, Prif Weithredwr a Sylfaenydd, Music Venue Trust

Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr, Creu Cymru

 

Ymateb i’r ymgynghoriad gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad gan Music Venue Trust

Ymateb i'r ymgynghoriad gan Creu Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gyngor Celfyddydau Cymru, yr Music Venue Trust a Creu Cymru.

(11.40)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

5.1

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr ar y cyd gan Oxfam Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch y Cerdyn Sgorio Ffeministaidd ar gyfer 2022

Dogfennau ategol:

(11.40)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

(11.40-12.00)

7.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3 a 4.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ymlaen i ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad, Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig.

7.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn cwrdd ar ei ran â chynrychiolwyr Oxfam Cymru a WEN Cymru ynghylch y Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022.