Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/12/2021 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

(09.30-10.15)

2.

Ymchwiliad undydd i’r Gymraeg: Addysg Gymraeg

Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin

Iestyn Davies, Prif Weithredwr, ColegauCymru

Mabon Dafydd, Llywydd, Undeb Myfyrwyr Bangor

 

Briff ymchwil

Tystiolaeth ysgrifenedig gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Mudiad Meithrin

Tystiolaeth ysgrifenedig gan ColegauCymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol; y Mudiad Meithrin; Colegau Cymru; ac Undeb Myfyrwyr Bangor.

 

2.2 Cytunodd Mudiad Meithrin i rannu ei maniffesto ar gyfer y Chweched Senedd â'r Pwyllgor.

 

(10.25-11.10)

3.

Ymchwiliad undydd i’r Gymraeg: Sefydliadau dinesig Cymraeg

Sian Lewis, Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru

Betsan Moses, Prif Weithredwr, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Merched y Wawr

Caryl Hâf, Cadeirydd y Cyngor, Ffederasiwn Clwb y Ffermwyr Ifanc

 

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Urdd Gobaith Cymru

Tystiolaeth ysgrifenedig gan yr Eisteddfod Genedlaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Urdd Gobaith Cymru; yr  Eisteddfod Genedlaethol; Merched y Wawr; a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc.

 

(11.20-12.05)

4.

Ymchwiliad undydd i’r Gymraeg: Sefydliadau dinesig Cymraeg

Ruth Richards, Prif Weithredwr, Dyfodol i'r Iaith

Mabli Jones, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith

Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Dewi Snelson, Cadeirydd, Mentrau Iaith Cymru

 

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gymdeithas yr Iaith

Tystiolaeth ysgrifenedig gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Mentrau Iaith Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Dyfodol i'r Iaith; Cymdeithas yr Iaith; y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; a Mentrau Iaith Cymru.

 

4.2 Cytunodd Dyfodol i'r Iaith i rannu ei maniffesto ar gyfer y Chweched Senedd â'r Pwyllgor.

 

(12.05)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(12.05)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 15 Rhagfyr 2021

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.05-12.10)

7.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.10-12.20)

8.

Strategaeth a blaenoriaethau drafft ar gyfer y Chweched Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytuno mewn egwyddor ar y braslun arfaethedig ar gyfer yr adroddiad ar flaenoriaethau’r Chweched Senedd, a’r amserlen arfaethedig ar gyfer cwblhau’r gwaith hwn a chyhoeddi’r adroddiad, yn amodol ar drafodaethau ychwanegol mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(12.20-12.25)

9.

Agenda ddrafft ar gyfer digwyddiad cynllunio strategol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr agenda ddrafft ar gyfer y digwyddiad cynllunio strategol a drefnwyd ar gyfer ei gyfarfod nesaf, a chytunodd ar yr agenda hon.

 

5a

Gwybodaeth ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd yn dilyn yr ymchwiliad undydd ar y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol

Dogfennau ategol:

5b

Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol: Uwchgynhadledd Cyngor Prydain-Iwerddon yng Nghymru

Dogfennau ategol:

5c

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: ‘Ar gof a chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus’

Dogfennau ategol:

5d

Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dilyn yr ymchwiliad undydd i Dreftadaeth, Amgueddfeydd ac Archifau

Dogfennau ategol:

(12.25-12.30)

10.

Ymweld â’r Gogledd ar gyfer busnes y Pwyllgor.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes i ofyn am ganiatâd i adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ddydd Mercher 9 Chwefror 2022, i ganiatáu i’r Aelodau deithio i’r Gogledd i gynnal cyfres o ymweliadau mewn perthynas â'i bortffolio a’i ymchwiliad i chwaraeon y bydd yn ei gynnal.