Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd, ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar
www.senedd.tv. |
|
(09.30-10.15) |
Ymchwiliad undydd i’r Gymraeg: Addysg Gymraeg Dr Ioan Matthews,
Prif Weithredwr, Coleg Cymraeg Cenedlaethol Gwenllian
Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin Iestyn Davies,
Prif Weithredwr, ColegauCymru Mabon Dafydd,
Llywydd, Undeb Myfyrwyr Bangor Briff ymchwil Tystiolaeth
ysgrifenedig gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Mudiad Meithrin Tystiolaeth
ysgrifenedig gan ColegauCymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr y
Coleg Cymraeg Cenedlaethol; y Mudiad Meithrin; Colegau Cymru; ac Undeb Myfyrwyr
Bangor. 2.2 Cytunodd
Mudiad Meithrin i rannu ei maniffesto ar gyfer y Chweched Senedd â'r Pwyllgor. |
|
(10.25-11.10) |
Ymchwiliad undydd i’r Gymraeg: Sefydliadau dinesig Cymraeg Sian Lewis, Prif
Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru Betsan Moses,
Prif Weithredwr, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tegwen Morris,
Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Merched y Wawr Caryl Hâf, Cadeirydd
y Cyngor, Ffederasiwn Clwb y Ffermwyr Ifanc Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Urdd Gobaith Cymru Tystiolaeth
ysgrifenedig gan yr Eisteddfod Genedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Urdd
Gobaith Cymru; yr Eisteddfod
Genedlaethol; Merched y Wawr; a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc. |
|
(11.20-12.05) |
Ymchwiliad undydd i’r Gymraeg: Sefydliadau dinesig Cymraeg Ruth Richards,
Prif Weithredwr, Dyfodol i'r Iaith Mabli Jones,
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Efa Gruffudd
Jones, Prif Weithredwr, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Dewi Snelson,
Cadeirydd, Mentrau Iaith Cymru Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Gymdeithas yr Iaith Tystiolaeth
ysgrifenedig gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Mentrau Iaith Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Dyfodol i'r Iaith; Cymdeithas yr Iaith; y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;
a Mentrau Iaith Cymru. 4.2 Cytunodd Dyfodol i'r Iaith i rannu ei maniffesto ar
gyfer y Chweched Senedd â'r Pwyllgor. |
|
(12.05) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(12.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 15 Rhagfyr 2021 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.05-12.10) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.10-12.20) |
Strategaeth a blaenoriaethau drafft ar gyfer y Chweched Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytuno mewn egwyddor
ar y braslun arfaethedig ar gyfer yr adroddiad ar flaenoriaethau’r Chweched
Senedd, a’r amserlen arfaethedig ar gyfer cwblhau’r gwaith hwn a chyhoeddi’r
adroddiad, yn amodol ar drafodaethau ychwanegol mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(12.20-12.25) |
Agenda ddrafft ar gyfer digwyddiad cynllunio strategol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor yr agenda ddrafft ar gyfer y
digwyddiad cynllunio strategol a drefnwyd ar gyfer ei gyfarfod nesaf, a
chytunodd ar yr agenda hon. |
|
Gwybodaeth ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd yn dilyn yr ymchwiliad undydd ar y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol: Uwchgynhadledd Cyngor Prydain-Iwerddon yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: ‘Ar gof a chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus’ Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dilyn yr ymchwiliad undydd i Dreftadaeth, Amgueddfeydd ac Archifau Dogfennau ategol: |
||
(12.25-12.30) |
Ymweld â’r Gogledd ar gyfer busnes y Pwyllgor. Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i
ysgrifennu at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes i ofyn am ganiatâd i
adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ddydd Mercher 9 Chwefror 2022, i ganiatáu i’r
Aelodau deithio i’r Gogledd i gynnal cyfres o ymweliadau mewn perthynas â'i
bortffolio a’i ymchwiliad i chwaraeon y bydd yn ei gynnal. |