Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/06/2025 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2         Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AS. Dirprwyodd Julie Morgan AS ar ei ran.

 

09:30

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3 ac 8.

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

09:30-10:00

3.

Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE – Trafod y bennod ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y bennod ddrafft, a chytunodd i wneud rhai newidiadau.

 

10:00-10:40

4.

Ymchwiliad i Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru – Sesiwn dystiolaeth gydag Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru

Eluned Morgan AS – Prif Weinidog

Andrew Gwatkin - Cyfarwyddwr – Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach

David Warren - Pennaeth Cysylltiadau Rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Holodd yr Aelodau y tystion fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru.

4.2 Cytunodd y Prif Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Ewros.

4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion gydag unrhyw gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn hon.

 

10:50-11:30

5.

Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru – Sesiwn dystiolaeth gydag Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru

Eluned Morgan AS – Prif Weinidog

Andrew Gwatkin - Cyfarwyddwr – Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach

David Warren - Pennaeth Cysylltiadau Rhyngwladol

 

Cofnodion:

5.1. Holodd yr Aelodau y tystion ynghylch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

5.2 Cytunodd y Prif Weinidog i rannu rhestr o'r ymweliadau rhyngwladol a wnaed gan aelodau'r Llywodraeth.

5.3 Cytunodd y Prif Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn egluro sut y gellir datblygu concordat ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol.

5.4 Cytunodd un o'r swyddogion i ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi pa effaith y mae adroddiad y Pwyllgor, 'Sioc Ddiwylliannol', wedi'i chael ar Lywodraeth Cymru.

5.5 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion gydag unrhyw gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn hon.

 

11:30

6.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

6.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

6.1

Cymraeg i bawb?

Dogfennau ategol:

6.2

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

Dogfennau ategol:

11:30

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 10 Gorffennaf 2025

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor mai Heledd Fychan AS fydd yn cadeirio'r cyfarfod ar 10 Gorffennaf 2025.

 

11:30-12:15

8.

Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a materion allweddol

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a’r prif faterion.