Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(10.40) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol. 1.2 Nododd yr Aelodau ymddiswyddiad Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg y diwrnod blaenorol; yn sgil hynny,
canslwyd sesiwn arfaethedig y Pwyllgor i graffu ar waith Gweinidogion. |
|
|
Craffu ar waith y Gweinidogion: Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - WEDI'I GANSLO |
||
(10.40) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
|
Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
|
Sesiynau i graffu ar waith y Gweinidogion Dogfennau ategol: |
||
|
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Dogfennau ategol: |
||
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 Dogfennau ategol:
|
||
(10.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.40 - 11.30) |
Diwylliant a'r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd: Trafod y materion allweddol Materion
allweddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol yn ymwneud
ag ychwanegu data cymharol o wledydd eraill a chytunodd arnynt. |
|
(11.30 - 11.50) |
Adroddiad monitro cysylltiadau rhyngwladol Adroddiad monitro
cysylltiadau rhyngwladol - Gorffennaf, Rhifyn 3 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|
(11.50 - 12.10) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus Papur trafod Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor ymgynghoriad sydd ar y ffordd gan
Ofcom ar drwydded Channel 4, a’r gofynion o ran rhaglennu a gwariant ar gynnwys
'tu allan i Lundain' a chynnwys 'tu allan i Loegr', a chytunwyd i gyflwyno
ymateb. |
|
(12.10 - 12.30) |
Blaenraglen waith Blaenraglen waith
drafft ar gyfer hydref 2024 Cylch gorchwyl
drafft ar gyfer ymchwiliad i'r effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a
chwaraeon Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ddrafft ar
gyfer hydref 2024 a chytunodd arni. 8.2 Trafododd y Pwyllgor y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer
ymchwiliad yn y dyfodol i effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a
chwaraeon, a chytunodd arno. 8.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i ofyn am wybodaeth reolaidd am ei
waith craffu ar gyfrifon Amgueddfa Cymru 2021-22. 8.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gwahodd yr Aelodau i sesiwn friffio dechnegol ar
Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yr oedd y Pwyllgor yn bresennol ar ei chyfer yn
gynharach y diwrnod hwnnw. |
PDF 136 KB