Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/11/2024 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS.

 

(09.30 - 10.45)

2.

Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol (10)

Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Ruth Meadows, Cyfarwyddwr Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru

Steffan Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr Celfyddydau a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru

Paul Kindred, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwylliant, Llywodraeth Cymru

 

Briff Ymchwil

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet am faterion yn ymwneud â’r sesiwn dystiolaeth.

 

(10.45)

3.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

 

3.1

Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon

Dogfennau ategol:

3.2

Model cyllido cylchgronau Cyngor Llyfrau Cymru

Dogfennau ategol:

3.3

Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

3.4

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon

Dogfennau ategol:

(10.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.45 - 11.45)

5.

Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Trafod y dystiolaeth a’r prif faterion

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal trafodaeth bord gron anffurfiol gyda chynrychiolwyr a wahoddir o'r sector cyhoeddi er mwyn llywio'r ymchwiliad ymhellach.

 

(11.45 - 12.30)

6.

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru): Diweddariad rapporteur

Materion allweddol

Llythyr gan Gymdeithas yr Iaith Tynnu sylw at rwystrau i fynediad at wasanaethau a gweithgareddau allgyrsiol i blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg – 4 Hydref 2024

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion.