Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(09.15 - 09.30) |
Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru): Diweddariad rapporteur Cofnodion: 1.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad gan Lee Waters AS am
waith craffu'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Fil y Gymraeg ac Addysg
(Cymru). 1.2 Cytunodd y Pwyllgor i drefnu diweddariad terfynol gan
y rapporteurs cyn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ystyried adroddiad
drafft ar ei waith craffu ar y Bil. |
|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. 2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS a Heledd
Fychan AS. Dirprwyodd Siân Gwenllian AS ar ran Heledd. |
|
(09.30 - 10.30) |
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda Chwaraeon Cymru (4) Brian Davies,
Prif Swyddog Gweithredol Y Farwnes
Grey-Thompson, Cadeirydd Briff ymchwil Ymateb i’r
ymgynghoriad gan Chwaraeon Cymru Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Chwaraeon Cymru Adroddiad
Gwerth Economaidd Chwaraeon (Saesneg yn unig) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Chwaraeon Cymru. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i wahodd rhagor o
dystiolaeth ysgrifenedig. |
|
(10.40 - 11.40) |
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (5) Hayley Roberts,
Dirprwy Gadeirydd Christopher
Catling, Prif Swyddog Gweithredol Ymateb i’r
ymgynghoriad gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i’r ymgynghoriad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i wahodd rhagor o
dystiolaeth ysgrifenedig. |
|
(11.40) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd y papurau eu nodi. 5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn mynegi siom yn ymateb Llywodraeth
Cymru i’w llythyr dyddiedig 20 Awst 2024 yn gofyn am ragor o wybodaeth am y
cyllid cymhorthdal hirdymor ar gyfer Maes Awyr Caerdydd a gyhoeddwyd ar 22
Gorffennaf. |
|
|
Honiadau am fwlio yn S4C Dogfennau ategol: |
||
|
Model cyllido cylchgronau Cyngor Llyfrau Cymru Dogfennau ategol: |
||
|
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Flaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024-2030 Dogfennau ategol: |
||
|
Diwylliant a'r berthynas newydd â’r UE Dogfennau ategol:
|
||
|
Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
|
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon Dogfennau ategol:
|
||
(11.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.40 - 12.00) |
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Amgueddfa Cymru
yn gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig yn lle sesiwn dystiolaeth lafar. |
PDF 209 KB