Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/03/2023 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1         Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

1.2         Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.3         Datganodd Alun Davies AS fuddiant o dan Reol Sefydlog 17.24A, gan fod yr ymgeisydd yn adnabyddus iddo.

 

 

 

(09.30 - 10.15)

2.

Gwrandawiad craffu cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.

 

(10.15)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip mewn ymateb i'r llythyr gan Amgueddfa Cymru ar 22 Chwefror 2023.

 

3.2

Cydsyniad deddfwriaethol: Y Bil Diogelwch Ar-lein

Dogfennau ategol:

3.3

Craffu ar oblygiadau ariannol Biliau

Dogfennau ategol:

3.4

Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

3.5

Ymchwiliad i effaith costau cynyddol

Dogfennau ategol:

3.6

Dyfodol Neuadd Dewi Sant

Dogfennau ategol:

3.7

Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol

Dogfennau ategol:

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15 - 11.00)

5.

Honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru: Trafod yr adroddiad drafft ar ganfyddiadau cychwynnol y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i drafod manylion eraill yn ymwneud â’r adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 

6.

Gwrandawiad craffu cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

6.2 Byddai’r Pwyllgor yn cytuno ar yr adroddiad terfynol drwy e-bost, cyn ei gyhoeddi ar 17 Mawrth 2023.