Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol
Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi
cytuno i gynnal ymchwiliad i wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd awdurdodau
lleol.
Y cylch gorchwyl
ar gyfer yr ymchwiliad yw ystyried:
>>>>
>>> Cyflwr presennol y gwasanaethau hamdden a
llyfrgelloedd a ddarperir gan awdurdodau lleol;
>>> Yr heriau ariannol a gweithredol y mae
awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth gynnal y gwasanaethau cymunedol hanfodol
hyn;
>>> Trefniadau a strategaethau ymadael awdurdodau
lleol ar gyfer achosion lle nad yw’r modelau darparu amgen a ddefnyddir yn
llwyddiannus;
>>> Sut mae’r broses o ddarparu gwasanaethau
eraill a ddarperir gan awdurdodau lleol yn rhyngweithio â gwasanaethau hamdden
a llyfrgelloedd;
>>> Sut mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn
defnyddio modelau amgen ar gyfer darparu gwasanaethau, a’r manteision
canfyddedig sy’n gysylltiedig â’r modelau hynny;
>>> Arfer da o ran sicrhau cynaliadwyedd
gwasanaethau lleol hamdden a llyfrgelloedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
<<<
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/02/2023
Ymgynghoriadau
- Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol (Wedi ei gyflawni)