Dyfodol Neuadd Dewi Sant

Dyfodol Neuadd Dewi Sant

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi ystyried gohebiaeth ynghylch dyfodol Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd a’r posibilrwydd y gallai’r lleoliad gael ei redeg gan gwmni allanol yn y dyfodol.

 

Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb yn y mater pwysig hwn oherwydd rôl ganolog a hirsefydlog Neuadd Dewi Sant fel neuadd gyngerdd operâu a symffonïau genedlaethol Cymru.

 

Mae’r lleoliad wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn y gorffennol.

Math o fusnes: Arall

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2022

Dogfennau