Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/05/2023 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2         Cafwyd ymddiheuriadau gan Llyr Gruffydd AS am weddill tymor yr haf ac roedd Heledd Fychan AS yn dirprwyo.

1.3         Yn absenoldeb y Cadeirydd, cafodd Heledd Fychan AS ei hethol yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn a gweddill tymor yr haf, yn unol â rheol sefydlog 17.22

1.4         Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Huw Irranca-Davies AS a Heledd Fychan AS ddatganiadau o fuddiannau perthnasol.

 

(09.30-10.30)

2.

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: rhan 1

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Olwen Spiller, Dirprwy Bennaeth Diogelu'r Amgylchedd - Llywodraeth Cymru

Roger Herbert, Pennaeth Monitro, Tystiolaeth ac Asesu Ansawdd Aer - Llywodraeth Cymru

Helen Rowley, Cyfreithiwr – Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a swyddogion.

 

(10.40-11.30)

3.

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: rhan 2

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Olwen Spiller, Dirprwy Bennaeth Diogelu'r Amgylchedd - Llywodraeth Cymru

Roger Herbert, Pennaeth Monitro, Tystiolaeth ac Asesu Ansawdd Aer - Llywodraeth Cymru

Helen Rowley, Cyfreithiwr – Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

3.1 Parhaodd y Pwyllgor i gael tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

(11.30)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

4.2

Cynllun Masnachu Allyriadau y DU

Dogfennau ategol:

4.3

Gwefru Cerbydau Trydan

Dogfennau ategol:

4.4

Tata Steel - Datgarboneiddio'r diwydiant dur

Dogfennau ategol:

4.5

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar gyfer y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

4.6

Fframweithiau cyffredin

Dogfennau ategol:

(11.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 ac eitem 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a swyddogion Llywodraeth Cymru, o dan eitemau 2 a 3.

 

7.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio cyfreithiol ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio.

 

8.

Trafod yr amserlen arfaethedig ar gyfer Bil Seilwaith (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Seilwaith (Cymru).