Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 27/02/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(11:30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac nid oedd unrhyw
ddirprwyon yn bresennol. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, cafwyd datganiadau o
fuddiant gan Sarah Murphy, Sioned Williams a Jenny Rathbone. |
|
(11:30-12:00) |
Dyled ac effaith costau byw cynyddol: sesiwn dystiolaeth rhif pedwar Susan Lloyd-Selby -
Arweinydd Rhwydwaith Cymru - Ymddiriedolaeth Trussell Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Susan Lloyd-Selby,
Arweinydd Rhwydwaith Cymru, Ymddiriedolaeth Trussell. |
|
(12.45 - 13.45) |
Dyled a chostau byw: Sesiwn dystiolaeth weinidogol gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt, y
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Paul Neave,
Pennaeth Cyngor Lles Cymdeithasol a Pholisi'r Adran Gwaith a Phensiynau Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan: Jane Hutt AS Paul Neave, Pennaeth Cyngor Lles Cymdeithasol a Pholisi'r
Adran Gwaith a Phensiynau |
|
(13:45) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: Nododd yr Aelodau y papurau. |
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a’r Eidal ynghylch cydnabod trwyddedau gyrru yn gilyddol at ddibenion cyfnewid. Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth rhwng y Prif Weinidog, y Trefnydd a’r Pwyllgor Cyllid ynghylch gwaith craffu ar oblygiadau ariannol Biliau Dogfennau ategol: |
||
(13:45) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o gyfarfod cyfan y Pwyllgor ar 6 Mawrth Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig. |
|
(13:45-14:00) |
Dyled a chostau byw: trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(14:00-14:15) |
Ymatebion rhyngwladol i bwysau costau byw Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau bapur ar ymatebion rhyngwladol i
bwysau costau byw. |
|
(14:15 - 14:45) |
Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol: trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft cyn cytuno arno,
yn amodol ar fân newidiadau. |
|
(14:45-15:15) |
Profiadau pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder troseddol: trafod y materion o bwys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y materion o bwys a amlygwyd yn yr
ymchwiliad i brofiadau pobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu
yn y system cyfiawnder troseddol a chytunwyd i drafod adroddiad drafft mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(15:15-15:30) |
Atal trais ar sail rhywedd: Papur dulliau ymgysylltu Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y papur dulliau ymgysylltu cyn
cytuno arno. |