Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/07/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

1.2         Croesawodd y Cadeirydd Luke Fletcher AS i’r Pwyllgor, a diolchodd i Mabon ap Gwynfor am ei gyfraniadau amhrisiadwy i’r Pwyllgor yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

(9.00 - 10.00)

2.

Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Elaina Chamberlain - Pennaeth Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol, Llywodraeth Cymru

Lisa James - Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Polisi Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Elaina Chamberlain, Pennaeth Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol

Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Polisi Llywodraeth Leol

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu nodiadau ar y gyfraith achosion sy'n berthnasol i gynghorwyr yn datblygu “croen mwy trwchus” oherwydd aflonyddu. 

 

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip - Darparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.2

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.3

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Lywodraeth y DU - Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Rhentwyr (Diwygio).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.4

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ardrethu Annomestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.5

Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

 

3.6

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Yr amserlen ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2023-24

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(10.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.15 - 10.45)

5.

Trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd ar ei flaenoriaethau ar gyfer tymor yr hydref 2023.

 

(10.45-11.00)

6.

Y Sector Rhentu Preifat - dull gweithredu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid.

 

(11.00-12.00)

7.

Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol – Trafod y dystiolaeth a’r prif faterion

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.