Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Catherine Hunt
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/10/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i
gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Carolyn
Thomas AS. 1.3
Dirprwyodd Vikki Howells AS ar ran
Carolyn Thomas AS. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid - Cyllideb Ddrafft 2024-25 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid
ynghylch cyllideb ddrafft 2024-25. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4, 5, 6, 7 a 10 Cofnodion: 3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(09:05-10.15) |
Craffu deddfwriaethol – diweddariad Cofnodion: 4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn hyfforddiant gloywi ar waith
craffu deddfwriaethol. |
|
(10:30-12:00) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - briff technegol gan Lywodraeth Cymru Swyddogion
Llywodraeth Cymru: Michael Kay, Uwch
Swyddog Cyfrifol ar gyfer y Bil - Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Etholiadau Elaina Chamberlain,
Arweinydd Polisi: Pennaeth Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol Sarah Wymer,
Rheolwr y Bil Gareth McMahon,
Uwch-gyfreithiwr y Llywodraeth: Gwasanaethau Cyfreithiol Bil Etholiadau a
Chyrff Etholedig (Cymru), fel y’i cyflwynwyd Cofnodion: 5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol wedi'i
harwain gan swyddogion Llywodraeth Cymru: Michael Kay, Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y Bil -
Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Etholiadau Elaina Chamberlain, Arweinydd Polisi: Pennaeth
Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol Sarah Wymer, Rheolwr y Bil Gareth McMahon, Uwch-gyfreithiwr y Llywodraeth:
Gwasanaethau Cyfreithiol |
|
(12:00-12:20) |
Y Dull o Graffu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu a chytunodd
arno. |
|
(12:20-12:30) |
Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol - trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor
ymateb Llywodraeth Cymru. |
|
(13:30-14:15) |
Cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip Jane Hutt AS, y
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip Ruth Meadows, Cyfarwyddwr
dros-dro ar Ymateb I Wcráin Joanna Valentine,
Dirprwy Cyfarwyddwr, Is-adran Llety Trosiannol - Wcráin Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r
Prif Chwip Ruth Meadows, Cyfarwyddwr dros-dro ar Ymateb I Wcráin Joanna Valentine, Dirprwy Cyfarwyddwr, Is-adran Llety
Trosiannol - Wcráin Cytunodd y Gweinidog i roi rhagor o wybodaeth i'r
Pwyllgor am y canlynol: ·
adborth ar gynnydd mewn perthynas â
throi lleoliadau priodol yn drefniadau llety masnachol, os na fydd taliadau
diolch ar gael ym mlwyddyn 3; ·
rhagor o fanylion am waith
dadansoddi y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar y rhesymau dros wrthod
llety; ·
manylion cyfanswm y costau a dalwyd
i CTM, ar ôl i’r holl ffigurau gael eu cysoni; ·
manylion gwaith parhaus Llywodraeth
Cymru i ddadansoddi datganiadau blynyddol ar y grant a ddarperir i awdurdodau
lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu cartrefi (gan gynnwys
llety modiwlaidd) ar gyfer y bobl sydd angen tai. |
|
(14:15 - 15:00) |
Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip Jane Hutt AS, Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip Stuart Evans, Pennaeth
Ras; Ffydd a chred; Polisi Sipsiwn, Roma a Theithwyr Amelia John, Cyfarwyddwr
Dros Dro - Cymunedau a Threchu Tlodi. Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r
Prif Chwip Stuart Evans, Pennaeth Hil; Ffydd a Chred; Polisi
Sipsiwn, Roma a Theithwyr Amelia John, Cyfarwyddwr Dros Dro, Cymunedau a Threchu
Tlodi Lorna Hall, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Hawliau
Dynol |
|
(15:00-15:15) |
Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog am nifer o faterion a godwyd. 10.2 Cytunodd y Pwyllgor i wneud gwaith dilynol ar
ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr. |