Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/11/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

2.1

Llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

 

2.17

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)

 

2.3

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

 

2.4

Papur briffio gan y Comisiwn Etholiadol ar Fil Etholiadau Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.4a Nododd y Pwyllgor y papur briffio gan y Comisiwn Etholiadol ar Fil Etholiadau Llywodraeth y DU

 

2.5

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd at y Gweinidog Gwladol dros Godi'r Gwastad a Chydraddoldeb, Llywodraeth y DU, ynghylch y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd at y Gweinidog Gwladol dros Godi'r Gwastad a Chydraddoldeb, Llywodraeth y DU, ynghylch y Bil Etholiadau

 

2.6

Llythyr at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

 

2.7

Llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

 

2.8

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau, cyn ei drafod mewn rhagor o fanylder o dan eitem 5 yn ystod y cyfarfod hwn.

 

2.9

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â dyraniadau o Gronfa wrth gefn Covid-19 Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.9.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â dyraniadau o Gronfa wrth gefn Covid-19 Llywodraeth Cymru.

 

2.10

Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-1056, 'Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru'

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.10.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-1056, 'Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru' a chytunodd i ymateb iddo.

 

2.11

Llythyr gan Make UK mewn perthynas â gweithgynhyrchu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.11.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Make UK mewn perthynas â gweithgynhyrchu yng Nghymru a chytunodd i ymateb iddo.

 

2.12

Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch "Adolygiad Digartrefedd: drws agored i newid cadarnhaol"

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.12.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch "Adolygiad Digartrefedd: drws agored i newid cadarnhaol" a chytunodd i ymateb iddo.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(09.30 - 09.50)

4.

Trafod yr adroddiad drafft ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau cyn cytuno arno.

 

(09.50 - 10.00)

5.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau, yn ogystal â llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a chytunodd i wahodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddod i sesiwn yn gysylltiedig â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y dyfodol.

 

(10.00 - 11.00)

6.

Sesiwn friffio gan Dr Simon Brooks o Brifysgol Abertawe mewn perthynas ag ail gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Dr Simon Brooks o Brifysgol Abertawe mewn perthynas ag ail gartrefi.

 

(11.00 - 11.30)

7.

Trafod cwmpas a dull gweithredu’r ymchwiliad i ail gartrefi

Cofnodion:

g.1 Trafododd y Pwyllgor cwmpas a dull gweithredu’r ymchwiliad i ail gartrefi, cyn cytuno arnynt.