Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/09/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a
Thai. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Sam Rowlands AS. Dirprwyodd Samuel
Kurtz AS ar ran Sam yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. 1.3 Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol o dan Reol Sefydlog
17.24A: · Carolyn Thomas AS · Samuel Kurtz AS · Joel James AS · Alun Davies AS 1.4 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod
am unrhyw reswm, y byddai Alun Davies AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol
Sefydlog 17.22. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3 a 7 o'r cyfarfod heddiw ac o'r cyfarfod ar 6 Hydref 2021 Cofnodion: 2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(09.00 - 09.30) |
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd ar nifer
o faterion a godwyd. |
|
(09.30 - 10.45) |
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd Emma
Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Amelia
John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru Francois
Samuel, Pennaeth Rheoliad Adeiladu, Llywodraeth Cymru Dr Jess Pearce, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran
Diogelwch, Rheoleiddio a Gwelliannau Tai, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Julie James AS, y Gweinidog Newid
Hinsawdd ·
Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac
Adfywio, Llywodraeth Cymru ·
Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr,
yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru ·
Francois Samuel, Pennaeth Polisi
Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru ·
Dr Jess Pearce, Dirprwy
Gyfarwyddwr, yr Is-adran Diogelwch, Rheoleiddio a Gwelliannau Tai, Llywodraeth
Cymru |
|
(11.00 - 12.15) |
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Reg
Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng Covid-19,
Llywodraeth Cymru Claire Germain, Dirprwy
Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Trawsnewid a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan: ·
Rebecca
Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ·
Reg
Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng Covid-19,
Llywodraeth Cymru ·
Claire
Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Trawsnewid a Phartneriaethau, Llywodraeth
Cymru 5.2 Cytunodd y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu: ·
Nodyn
ar waith y panel taliadau annibynnol mewn perthynas â chyflogau’r Cynghorwyr,
yn ogystal â chopi o adroddiad blynyddol y panel, pan gaiff ei gyhoeddi; ·
Nodyn
ar weddill yr arian (£2 biliwn) oedd heb ei ddyrannu yng nghyllideb atodol mis
Mehefin 2021; ·
Diweddariad
ar argymhellion a gwaith presennol y Panel Adolygu Annibynnol ar gynghorau
cymuned a thref. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid
mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23. |
||
Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch gwaith y Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd y
Gymraeg mewn perthynas â gwaith y Pwyllgor. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn trafod ei flaenoriaethau Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â'i flaenoriaethau. |
||
Adroddiad gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, "Cartrefi addas ar gyfer y Dyfodol: Yr Her Ôl-osod” Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.4.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Gomisiynydd
Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, "Cartrefi addas ar gyfer y Dyfodol: Yr Her
Ôl-osod”. |
||
Llythyr gan y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC) ynghylch y sector tai ac "NHBC Accepts" Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr NHBC mewn
perthynas â'r sector tai ac "NHBC Accepts". |
||
Llythyr gan Sefydliad Bevan ynghylch meysydd polisi o ran tlodi ac anghydraddoldeb Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Sefydliad Bevan
mewn perthynas â meysydd polisi o ran tlodi ac anghydraddoldeb. |
||
Llythyr gan Llyr Gruffydd AS at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch ffiniau etholiadol awdurdodau lleol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Llyr Gruffydd AS at
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â ffiniau etholiadol
awdurdodau lleol. |
||
Papur briffio seneddol gan y Comisiwn Etholiadol ynghylch y Bil Etholiadau Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.8.a Nododd y Pwyllgor y papur briffio seneddol gan y
Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â'r Bil Etholiadau. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cydweithio rhwng y pwyllgorau Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.9.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol mewn perthynas â chydweithio rhwng y
pwyllgorau. |
||
Papur briffio gan Llamau mewn perthynas ag Upstream Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.10.a Nododd y Pwyllgor bapur briffio Llamau mewn
perthynas ag Upstream Cymru. |
||
(12.15 - 12.30) |
Sesiynau craffu ar waith Gweinidogion – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5 Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5 a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth
Leol ar nifer o faterion a godwyd. |