Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/02/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
09.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. |
|
09.30 |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nododd y
Pwyllgor y papurau ar ddiwedd y sesiwn gyhoeddus. |
|
|
Memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghylch parthau buddsoddi Dogfennau ategol: |
||
|
Cydsyniad deddfwriaethol: Bil Hawliau Cyflogaeth Dogfennau ategol:
|
||
|
Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn Dilyn Storm Dogfennau ategol:
|
||
|
Gwaith dilynol i gyfarfod y Pwyllgor ar 15 Ionawr 2025 - Y Warant i Bobl Ifanc Dogfennau ategol: |
||
|
Cydsyniad deddfwriaethol: Y Bil Data (Defnydd a Mynediad) Dogfennau ategol: |
||
|
Memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
|
Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach Dogfennau ategol: |
||
09.30 - 10.40 |
Llwybrau prentisiaeth - Panel 4 - Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol Leigh Hughes,
Cadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Owain Jones,
aelod o grŵp
Clwstwr Adeiladu Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru, ac
Ymddiriedolwr ac Aelod o Fwrdd CITB Pryderi ap
Rhisiart, Cadeirydd Grŵp
Sgiliau Digidol, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru Ceri Stephens,
Cadeirydd grŵp
clwstwr Gweithgynhyrchu a Pheirianneg y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, a Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Leigh Hughes (Cadeirydd, Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (ESB)), Owain Jones (aelod o grŵp clwstwr Adeiladu Partneriaeth Dysgu a Sgiliau
Rhanbarthol De-orllewin Cymru, ac Ymddiriedolwr ac Aelod Bwrdd CITB), Pryderi
Ap Rhisiart (Cadeirydd Grŵp Sgiliau Digidol,
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru), a Ceri Stephens (Cadeirydd, grŵp clwstwr Gweithgynhyrchu a Pheirianneg y
Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru). |
|
10.50 - 11.50 |
Llwybrau prentisiaeth - Panel 5 - Llywodraeth Cymru Jack Sargeant AS,
y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Neil Surman,
Dirprwy Gyfarwyddwr - Sgiliau, Llywodraeth Cymru Rachel Sanders,
Pennaeth Prentisiaethau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru a oedd yn cymryd lle Jack
Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol,
Llywodraeth Cymru, a anfonodd ei ymddiheuriadau yn sgil materion personol. |
|
11.50 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
11.50 - 12.10 |
Trafod y dystiolaeth yn dilyn y cyfarfod a'r adroddiad ymgysylltu drafft Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 3 a 4. 6.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch cwestiynau nas cyrhaeddwyd
yn ystod y sesiwn, ac i ofyn am wybodaeth ddilynol mewn rhai meysydd. |
|
12.10 - 12.15 |
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Cyflogaeth - Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd arno |
|
12.15 - 12.25 |
Iechyd y Pridd: Trafod y papur cwmpas a dull Cofnodion: 8.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar bapur cwmpas a dull yr ymchwiliad newydd i Iechyd y Pridd ym maes
amaethyddiaeth, a chadarnhaodd y rhanddeiliaid i’w gwahodd i roi tystiolaeth
lafar ar ddechrau tymor yr haf. |
|
12.25 - 12.35 |
Yr Economi Werdd: Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 9.1 Bu'r Pwyllgor
yn trafod a chytuno ar yr argymhellion drafft diwygiedig sydd wedi'u cynnwys yn
yr adroddiad, ac roedd yn fodlon symud ymlaen i gyhoeddi’r adroddiad yn dilyn y
newidiadau hyn. |
PDF 386 KB