Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lara Date 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/09/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) 2023

Dogfennau ategol:

2.2

Cefnogaeth gyda thrawsnewid Tata Steel

Dogfennau ategol:

2.3

Cyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - 5 Gorffennaf 2023: Sesiwn graffu ar y cyd gyda Gweinidogion ar addysg a sgiliau ôl-16

Dogfennau ategol:

(09.30-10.15)

3.

Pwysau costau byw a’r Warant i Bobl Ifanc - Panel 1

Nikki Lawrence, Prif Swyddog Gweithredol, Gyrfa Cymru

Nerys Bourne, Cyfarwyddwr Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau, Gyrfa Cymru

Mandy Ifans, Pennaeth Cyngor Cyflogaeth, Gyrfa Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a

fideogynadledda drwy Zoom

 

(10.20-11.20)

4.

Pwysau costau byw a’r Warant i Bobl Ifanc - Panel 2

Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Llefarydd Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir y Fflint

Dr Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro a Chadeirydd y Grŵp Dysgu Seiliedig ar Waith Strategol, yn cynrychioli Colegau Cymru

Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

 

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel.

 

(11.45-12.30)

5.

Dyfodol Dur yng Nghymru

Y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Llywodraeth y DU

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

5.1 O dan Reol Sefydlog 17.49, roedd Huw Irranca-Davies AS, aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, hefyd yn bresennol yn y sesiwn hon.

 

 

(12.30)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw ac o’r eitem gyntaf yn y cyfarfod nesaf ar 11 Hydref 2023

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r eitem gyntaf yn y cyfarfod nesaf ar 11 Hydref 2023.

 

(12.30-12.35)

7.

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd am bwysau costau byw a'r Warant i Bobl Ifanc, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i drafod rhai materion ymhellach.

 

(12.35-12.40)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth yn ymwneud â'r Memorandwm, yn enwedig Rhan 1 yn ymwneud â'r Cenadaethau Ffyniant Bro, a gwelliannau eraill i'r Bil y gallai fod angen cydsyniad y Senedd ar eu cyfer, cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno’r adroddroddiad ar y Memorandwm, sef 13 Hydref.

 

 

(12.40-12.50)

9.

Papur cwmpasu: Ymchwiliad i Ymchwil a Datblygu

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd ar y cwmpas a'r dull ar gyfer ymchwiliad lefel uchel undydd i Ymchwil a Datblygu.

 

(12.50-13.00)

10.

Papur cwmpasu: Banc Datblygu Cymru

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd ar y cwmpas a'r dull ar gyfer ymchwiliad lefel uchel undydd i Fanc Datblygu Cymru.