Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 10/05/2023 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o
fuddiant. |
|
(9.15-10.30) |
Canserau gynaecolegol: Panel 3 Lowri Griffiths,
Cadeirydd, Cynghrair Canser Cymru a Chyfarwyddwr Cymorth, Polisi a
Mewnwelediad, Gofal Canser Tenovous Rachel Downing,
Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd, Target Ovarian Cancer Claire O'Shea, Un
y mae canser wedi effeithio arni Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o
Gynghrair Canser Cymru. |
|
(10.45-11.45) |
Canserau gynaecolegol: Panel 4 Dr Shanti
Karupiah, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu Dr Zohra Ali,
Cymdeithas Feddygol Islamaidd Prydain Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o
Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Islamaidd
Prydain. 3.2 Cytunodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol i
ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch a yw cleifion yn cyflwyno gyda chanser
gynaecolegol yn hwyrach yn dilyn pandemig COVID-19. |
|
(11.45) |
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr ar y cyd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y polisi Cymru gyfan ar ryddhau cleifion o’r ysbyty a chanllawiau cysylltiedig. Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr at y Pwyllgor Cyllid ynghylch tystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Gwasanaethau Endosgopi: ymchwiliad dilynol Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Rheoliadau Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) (Ymadael â’r UE) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr at y Pwyllgor Cyllid ynghylch cynaliadwyedd a chydbwysedd ariannol byrddau iechyd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cynaliadwyedd a chydbwysedd ariannol byrddau iechyd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn, ac o bob eitem y cyfarfod a gaiff ei gynnal ar 25 Mai 2023, ac eithrio Eitem 1 i Eitem 3. Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.45-12.00) |
Canserau gynaecolegol: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(12.00-12.05) |
Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Cyfnod 2 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â thrafodion
Cyfnod 2. 7.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, cytunodd y Pwyllgor i
amrywio trefn y broses ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 ar Fil Caffael y
Gwasanaeth Iechyd (Cymru), ac i ystyried adrannau’r Bil yn y drefn a ganlyn: · Adrannau 2-5. · Adran 1. · Teitl hir. |
|
(12.05-12.15) |
Gwasanaethau endosgopi: Ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor
ymateb Llywodraeth Cymru. |