Gwasanaethau endosgopi: ymchwiliad dilynol
Inquiry5
Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad
byr i wasanaethau endosgopi i ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen i
weithredu'r cynllun
gweithredu endosgopi cenedlaethol, i leihau amseroedd aros, ac yn y pen
draw i wella canlyniadau i gleifion a chyfraddau goroesi.
Y cefndir
Cynhaliodd
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd ymchwiliad i wasanaethau endosgopi ym
mis Ebrill 2019. Canfu fod galw cynyddol am wasanaethau endosgopi a diffyg
capasiti mewn ysbytai yn creu amseroedd aros hir am apwyntiadau endosgopi, a
galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu cynllun endosgopi
cenedlaethol yn gyflym.
Mae amseroedd
aros ar gyfer gofal dewisol ar draws pob arbenigedd wedi cynyddu’n sylweddol o
ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth
Cymru gynllun
ar gyfer adfer gwasanaethau dewisol. Cefnogir y cynllun gan gyllid ychwanegol o
dros £170 miliwn dros dair blynedd, ac mae’n cynnwys rhoi’r cynllun gweithredu
endosgopi cenedlaethol ar waith.
Darparodd y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad
ar argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd ym mis Medi 2022.
Yn dilyn galwad
am dystiolaeth ysgrifenedig yn hydref 2022 a sesiynau tystiolaeth lafar ar 2
Chwefror a 15
Chwefror 2023, gwnaethom ysgrifennu
at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 10 Mawrth 2023. Ymatebodd
y Gweinidog ar 25 Ebrill 2023.
Cylch gorchwyl
Yn benodol,
ystyriodd y Pwyllgor:
>>>>
>>>Yr
effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar ddarparu gwasanaethau endosgopi a rhoi’r
cynllun
gweithredu endosgopi cenedlaethol ar waith, a goblygiadau hwn i ganlyniadau
cleifion a chyfraddau goroesi.
>>>Y
flaenoriaeth a roddir i wasanaethau endosgopi yn y
rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd Llywodraeth Cymru,
gan gynnwys pwy sy’n gyfrifol am gyflawni gwelliannau drwy ad-drefnu
gwasanaethau a modelau gofal newydd (gan gynnwys theatrau endosgopi ychwanegol,
canolfannau diagnostig ac unedau rhanbarthol), a sut y bydd gwasanaethau
endosgopi yn rhan o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser newydd (y disgwylir iddo
gael ei gyhoeddi yn hydref 2022).
>>>Materion
yn ymwneud ag adfer a gwella perfformiad o ran amseroedd aros, gan gynnwys:
lleihau amseroedd aros am brofion a delweddu diagnostig i wyth wythnos erbyn
gwanwyn 2024, a chymorth i bobl sy'n aros am brofion ac apwyntiadau dilynol;
maint y rhestr aros weithredol ar gyfer yr holl gleifion mewnol ac achosion
dydd presennol sy'n aros am driniaethau endosgopig (yn ôl modd); i ba raddau y
mae gweithgarwch brys yn effeithio ar gapasiti gofal a gynlluniwyd, ac a oes
digon o ddata i ddeall effaith achosion brys; a yw cleifion risg uchel sydd
angen gweithdrefnau endosgopig gwyliadwriaeth barhaus yn cael eu cynnwys yn y
modelau cynllunio galw a chapasiti presennol; y posibiliadau ar gyfer cynyddu'r
gwersi a ddysgwyd o fentrau rhestrau aros blaenorol, fel gosod gwaith ar
gontractau mewnol, gosod gwaith ar gontractau allanol, neu unedau symudol; a'r
hyn y mae'r modelu galw a chapasiti presennol yn ei ddweud wrthym ynghylch pryd
y gellir cyflawni sefyllfa gynaliadwy yn realistig.
>>>Pa
rwystrau sydd i gyflawni achrediad gan y Grŵp Cynghori ar y Cyd ar
Endosgopi Gastroberfeddol, gan gynnwys a yw byrddau iechyd yn buddsoddi
digon o adnoddau i ddatblygu’r cyfleusterau a’r
seilwaith ar gyfer gwasanaethau endosgopi, gwasanaethau dadheintio, a’r cynnydd
sydd wedi’i wneud o ran ehangu’r gweithlu endosgopi.
>>>Y
sefyllfa bresennol o ran gwneud yn fawr o’r rhaglen sgrinio canser y coluddyn
(h.y. cynyddu sensitifrwydd a phrofion o ran oedran) a sut mae hyn yn cymharu â
rhannau eraill o'r DU.
>>>Profiadau
pobl iau a rhai sydd yn y perygl mwyaf o ddatblygu canser y coluddyn (h.y. y
rhai sydd â syndrom Lynch), ac ymdrechion i roi diagnosis i ragor o gleifion yn
gynnar.
>>>Mynediad
gofal cychwynnol at Brofion Imiwnogemegol Ysgarthol (FIT) ar draws gwahanol
fyrddau iechyd ar gyfer cleifion nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer
atgyfeiriad llwybr amheuaeth o ganser, a sut y cânt eu defnyddio i helpu
gwasanaethau i flaenoriaethu cleifion ac i haenu atgyfeiriadau yn ôl risg
(trawsnewid cleifion allanol).
<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/10/2022
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Gwasanaethau endosgopi (Wedi ei gyflawni)