Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/06/2025 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30-10.30)

2.

Gwasanaethau offthalmoleg yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth: panel 8

Rebecca John, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol GOCC - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Briff ymchwil

Papur 1 - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

 

(10.45 -12.15)

3.

Gwasanaethau Offthalmoleg yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

David O'Sullivan - Prif Gynghorydd Optometrig

Alex Slade - Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar

 

Briff ymchwil

Papur 2 - Gwasanaethau Offthalmoleg yng Nghymru: Ymateb Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

3.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i roi diweddariad ar: 

·         yr amserlen ar gyfer diweddariad ar ganfyddiadau'r adolygiad gan Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, yn dilyn 'pryderon diogelwch ynghylch dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran' ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

·         data a manylion ar lefelau uwchsgilio ar gyfer Optometryddion.

 

(12.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 5

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig.

 

(12.15-12.30)

5.

Gwasanaethau Offthalmoleg: ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(13.00-13.30)

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Cyflogaeth: sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Dawn Bowden, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Stephen Layne, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwaith Teg

Laurie Haward, Pennaeth Polisi y Gweithlu Gofal Cymdeithasol

 

Briff ymchwil - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Cyflogaeth.

Papur 3 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Cyflogaeth: papur briffio ymchwil y Senedd.

 

 

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.

 

(13.30)

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-06-1350: Aillagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

7.2

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-06-1242: Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(13.30)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(13.30-13.45)

9.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Cyflogaeth - ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth

 

(13.45-14.00)

10.

Canserau gynaecolegol

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynglŷn â gweithredu'r argymhellion yn ei adroddiad ar ganserau gynaecolegol .

 

 

(14.00-14.20)

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Iechyd Meddwl

Papur 5 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: (No.3) Y Bil Iechyd Meddwl  

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor y Nodyn Cyngor Cyfreithiol

11.2 Trafododd y Pwyllgor feysydd i'w cynnwys yn ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Iechyd Meddwl,  a chytunodd arnynt.

 

(14.20 -14.30)

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Tybaco a Fêps - trafod yr adroddiad drafft

Papur 6 -Adroddiad ar y Bil Tybaco a Fêps: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol -Rhif 2

Cofnodion:

12.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd arno.