Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig: O bell
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. |
|
(09.30-10.30) |
Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Alzheimer Cymru Huw Owen, Swyddog
Polisi, Cymdeithas Alzheimer Cymru Papur 1 -
Cymdeithas Alzheimer Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o
Gymdeithas Alzheimer Cymru a gofalwr di-dâl â phrofiad o oedi cyn rhyddhau o'r
ysbyty. |
|
(10.45-12.00) |
Iechyd menywod a merched: sesiwn dystiolaeth gyda Chlymblaid Iechyd Menywod Cymru Deborah Shaffer,
Sylfaenydd - Triniaeth Deg i Fenywod Cymru Dee Montague,
Swyddog Ymgysylltu - Triniaeth Deg i Fenywod Cymru Gemma Roberts,
Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus - British Heart Foundation Cymru
Papur briffio
Ymchwil y Senedd Papur 2 -
Clymblaid Iechyd Menywod Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o
Glymblaid Iechyd Menywod Cymru. |
|
(12.00) |
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
Ymateb gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i'r Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed a'r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer organau, meinweoedd a chelloedd (ac eithrio embryonau a gametau) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed a'r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer organau, meinweoedd a chelloedd (ac eithrio embryonau a gametau) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles at y Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer labelu, cyfansoddiad a safonau sy'n gysylltiedig â maeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr dilynol gan y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ynghylch rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeiryddion Pwyllgorau'r Senedd ynghylch canfyddiadau ei waith ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar ei flaenoriaethau yn y Chweched Senedd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memoranda Rhif 2 a Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at Brif Weithredwyr Byrddau Iechyd ynghylch rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.10 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i'r Cadeirydd ynghylch rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.11 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
Llythyr dilynol gan Gofal a Thrwsio ynghylch cyfarfod y Pwyllgor ar 14 Chwefror 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.12 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Bil Optometreg Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.13 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd ynghylch defnydd o'r term BAME Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.14 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch defnydd o'r term BAME Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.15 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
(12.00-12.10) |
Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a nododd
feysydd i’w trafod ar gyfer y sesiwn tystiolaeth lafar gyda’r Gweinidog a’r
Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gyfarfod nesaf ar 24
Mawrth 2022. |
|
(12.10-12.20) |
Iechyd menywod a merched: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
(12.20-12.35) |
Fframweithiau cyffredin: y dystiolaeth Papur 3 –
fframweithiau cyffredin Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar y llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
ynghylch y fframweithiau Diogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd; Diogelwch
ac Ansawdd Gwaed; ac Organau a Meinweoedd, yn amodol ar fân newidiadau y
cytunir arnynt drwy e-bost. 8.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ofyn am
ragor o wybodaeth am y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Safonau
Cyfansoddiadol a Labelu Bwyd. |