Iechyd menywod a merched
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
wedi nodi iechyd menywod fel blaenoriaeth yn ei strategaeth
ar gyfer y Chweched Senedd.
Dyma’r gwaith a wnaed hyd yma:
>>>>
>>>Tynnodd nifer o
ymatebwyr i ymgynghoriad
y Pwyllgor ar flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd yn haf 2021 sylw at
ddiffyg cynllun iechyd penodol ar gyfer menywod a merched yng Nghymru.
>>>Rhoddodd y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymrwymiad yn ystod gwaith craffu’r Pwyllgor ar
gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 ar 13 Ionawr 2022 i “ddatblygu
cynnig iechyd menywod” a “rhoi ffocws gwirioneddol” ar faterion iechyd i
fenywod.
>>>Ar 25
Mawrth 2022, ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y
datganiad ansawdd iechyd menywod a merched a’r cynllun cysylltiedig. Ymatebodd
y Gweinidog ar 11 Mai 2022.
>>>Ar 18
Gorffennaf, ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Gweinidog i ofyn cwestiynau pellach ynghylch y datganiad ansawdd
iechyd menywod a merched a'r cynllun cysylltiedig. Ymatebodd
y Gweinidog ar 26 Medi 2022.
>>>Ym
mis Tachwedd 2022, lansiodd y Pwyllgor ymchwiliad
i ganserau gynaecolegol.
<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2022
Dogfennau
- Llythyr gan y Cadeirydd i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched a’r cynllun cysylltiedig - 25 Mawrth 2022
PDF 164 KB
- Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch datganiad a chynllun ansawdd iechyd menywod a merched - 11 Mai 2022
PDF 464 KB