Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/12/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe.

(09.45)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3, 6 a 9 y cyfarfod

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

(09.45 - 10.00)

3.

Gweithgareddau pwyllgor - diweddariad llafar

Cofnodion:

3.1 Rhoddodd yr Aelodau ddiweddariadau llafar ar weithgareddau’r Pwyllgor yr oeddent wedi’u cyflawni yn ystod y tymor. Roedd y Pwyllgor wedi gwneud gwaith ymgysylltu ar gyfer ei ymchwiliad i gymorth Iechyd Meddwl mewn Sefydliadau Addysg Uwch ac i blant sydd wedi bod mewn gofal.

3.2 Cafwyd diweddariad gan Sioned Williams AS ar y gwaith ar y cyd â'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

3.3 Cafwyd ddiweddariadau gan Aelodau am gyfarfodydd a gynhaliwyd y tu allan i’r Pwyllgor:

- Rhwydwaith Hawliau Ieuenctid Merched

- Beat Cymru

- Addysgwyr yn y cartref

- Diweddariad ar gyfarfodydd gweinidogol deufisol

- Cyfarfod â pherson ifanc a'i gweithiwr prosiect Tîm Ymyrraeth Teuluoedd Caerffili 

- UCM Cymru

(10.00 - 11.00)

4.

Sesiwn graffu gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. 

Dr Dave Williams, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chynghorydd i'r Prif Swyddog Meddygol a Llywodraeth Cymru ar Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

(11.00)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

5.1

Cwricwlwm i Gymru

Dogfennau ategol:

5.2

Blaenoriaethu Busnes Pwyllgorau

Dogfennau ategol:

5.3

Gwrandawiadau cyn penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - trafodaeth y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

5.4

Gwybodaeth gan randdeiliad

Dogfennau ategol:

5.5

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

5.6

Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i Benodiadau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

5.7

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24

Dogfennau ategol:

5.8

Ystyried goblygiadau ariannol Biliau gan y Senedd

Dogfennau ategol:

5.9

Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022

Dogfennau ategol:

5.10

Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Dogfennau ategol:

(11.00 - 11.10)

6.

Sesiwn graffu gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant - trafod y dystiolaeth.

Cofnodion:

6.1 Trafododd Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd.

6.3 Cytunodd y Pwyllgor i roi adborth i'r bobl ifanc a gyflwynodd gwestiynau ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt. 

(11.15 - 12.00)

7.

Gwrandawiad cyn penodi Cadeirydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

Yr Athro Fonesig Julie Lydon

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 cynhaliodd y Pwyllgor waith craffu ar yr ymgeisydd a ffafrir gan Lywodraeth Cymru

(12.15 - 13.00)

8.

Gwrandawiad cyn penodi Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

Yr Athro David Sweeney

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cynhaliodd y Pwyllgor waith craffu ar yr ymgeisydd a ffafrir gan Lywodraeth Cymru

(13.00 - 13.15)

9.

Gwrandawiadau cyn penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - trafodaeth y Pwyllgor

Cofnodion:

9.1 Trafododd Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau gyda’r ymgeiswyr a ffafrir.

9.2 Oherwydd amserlenni ar gyfer cyflwyno adroddiadau, cytunodd yr Aelodau i ystyried yr adroddiadau ar y gwrandawiadau cyn penodi, a chytuno arnynt, yn electronig. Y dyddiad ar gyfer gosod yr adroddiadau yw dydd Llun 19 Rhagfyr.