Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/10/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(11.15 - 11.30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 - trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Oherwydd yr
amserlenni adrodd, cytunodd yr Aelodau i drafod y gwelliannau terfynol yn
electronig. |
|
(11.30 -11.45) |
Blaenoriaethau i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - strategaeth ar gyfer ymgysylltu â phlant a phobl ifanc Cofnodion: 2.1 Trafododd y Pwyllgor y strategaeth ar gyfer
ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. 2.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal grwpiau ffocws wyneb yn
wyneb gyda phlant mewn ysgolion cynradd a chwrdd â phobl ifanc o wahanol
fudiadau ieuenctid o bob rhan o Gymru. |
|
(11.45 - 12.00) |
Trafod dull cynllunio strategol y Pwyllgor Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor y dull cynllunio strategol. 3.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal y sesiynau cynllunio
strategol dros ddau gyfarfod, gyda’r cyntaf o'r rhain yn cael ei gynnal ddydd
Llun 18 Hydref, a’r cyfarfod arall yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd fel
bod y Pwyllgor yn gallu ystyried yr ymgysylltiad â phlant a phobl ifanc. 3.3 Nododd yr Aelodau yr hyn yr hoffent ganolbwyntio arno
yn ystod y sesiynau. |
|
(12.00 - 12.15) |
Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: 4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith. |
|
(13.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 5.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 5.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Jones AS, nid oedd
dirprwy ar ei rhan. 5.3 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
(13.00 - 14.30) |
Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Eluned Morgan AS,
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS,
y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Lynne Neagle AS,
y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Dr Chris Jones,
Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Albert Heaney, Prif
Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru Claire Bennett, Cyfarwyddwr,
Yr Adran Cymunedau a Threchu Tlodi Tracey Breheny,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Agored i
Niwed Adran Irfon Rees, Cyfarwyddwr
Iechyd y Boblogaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Aeth y Pwyllgor ati i graffu ar y Gweinidog a'r
Dirprwy Weinidogion. 6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol: - yr adroddiadau manwl y mae’r Grŵp Llywio Gwasanaethau Hanfodol wedi’u llunio mewn perthynas â meysydd penodol i nodi i ba raddau y cafodd
gwasanaethau hanfodol eu cynnal yn ystod y pandemig; - nodyn yn cynnwys data am y gwahanol fathau o raglenni
brechu ar gyfer plant a phobl ifanc; 6.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
i roi mwy o fanylion am y cynnydd sy'n cael ei wneud i wella iechyd plant ar
draws ystod o faterion iechyd cyhoeddus. |
|
(14.30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 7.1 Nodwyd y papurau. |
|
Blaenraglen waith y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 Dogfennau ategol: |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 Dogfennau ategol: |
||
Cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol: |
||
Cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol: |
||
(14.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r cyfarfod cyfan ar 18 Hydref Cofnodion: 8.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.30 - 14.45) |
Trafod y dystiolaeth o’r sesiwn graffu gyda’r Gweinidogion Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn dystiolaeth flaenorol. |