Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/07/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Chweched Senedd. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn
amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Ken Skates AS yn Gadeirydd
Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Ni chafwyd
ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant. |
|
(09.15 - 09.20) |
Cylch gwaith y Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2 Nododd yr Aelodau y cylch gwaith. |
|
(09.20) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Fforwm y Cadeiryddion Dogfennau ategol: |
||
Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc Dogfennau ategol: |
||
Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc Dogfennau ategol: |
||
Iechyd meddwl amenedigol
Dogfennau ategol: |
||
Addysg heblaw yn yr ysgol Dogfennau ategol: |
||
(09.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod am weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09.20 - 09.45) |
Gweithdrefnau'r pwyllgor a ffyrdd o weithio Cofnodion: 5.1 Nododd yr Aelodau'r Rheolau Sefydlog sy'n
llywodraethu busnes pwyllgor a'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r Pwyllgor yn
ei waith. 5.2 Bu'r Aelodau'n trafod ac yn cytuno ar ddull
cychwynnol o: - Drefnu busnes, gan gynnwys amseroedd a fformatau’r
cyfarfod. - Cyfleoedd hyfforddi a datblygu. - Briffiau pwyllgor a dewisiadau iaith. |
|
(09.45 - 10.00) |
Dull gweithredu strategol o ran cylch gwaith y Pwyllgor Cofnodion: 6.1 Cytunodd yr Aelodau i ymgymryd â gweithgarwch yn
nhymor yr hydref i ddatblygu a mabwysiadu dull strategol o wneud gwaith
pwyllgor. 6.2 Nododd yr Aelodau bwysigrwydd: - Sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu
clywed mewn gwaith pwyllgor. - Mynd ar drywydd cyfleoedd i weithio ar y cyd â
phwyllgorau eraill, lle bo hynny'n briodol.
|
|
(10.00 - 10.45) |
Gweithgarwch cynnar y Pwyllgor Cofnodion: 7.1 Cytunodd yr Aelodau i lansio ymgynghoriad â
rhanddeiliaid dros yr haf gan wahodd safbwyntiau ar beth ddylai
blaenoriaethau'r pwyllgor fod, i lywio ei gynllun strategol a'i raglennu gwaith
tymor hwy. Byddai'r dyddiad cau ar ôl gwyliau'r ysgol gan ganiatáu cyfle i bobl
mewn ysgolion gyfrannu. 7.2 Cytunodd yr Aelodau hefyd i gynnal gweithgarwch
ymgysylltu wedi'i deilwra gyda phlant a phobl ifanc yn nhymor yr hydref, i ofyn
am eu safbwyntiau ar flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd. 7.3 Bu'r Aelodau'n trafod ac yn cytuno i wahodd y
Gweinidog Addysg a'r Gweinidog/Dirprwy Weinidog Iechyd i gyfarfod cyntaf tymor
yr hydref, i drafod eu blaenoriaethau. Nododd yr Aelodau yr angen i gysylltu
â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro a
achosir gan amserlen y pwyllgor. Gofynnir am bapur ysgrifenedig ymlaen llaw i
lywio'r sesiwn. 7.4 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi prif raglen waith ar
sail dreigl. |