Gwaddol y Bumed Senedd - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Gwaddol y Bumed Senedd - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Fel arfer, cyn etholiad y Senedd, mae’r rhan fwyaf o bwyllgorau yn dirwyn eu gwaith i ben drwy lunio adroddiad gwaddol.

Fodd bynnag, oherwydd y pandemig COVID-19, gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg flaenoriaethu’r gwaith o graffu ar effaith yr argyfwng iechyd cyhoeddus ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys myfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch, yn ystod wythnosau olaf y bumed Senedd.

Mae adroddiad terfynol y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y broses adfer ar gyfer plant a phobl ifanc yn sgil COVID-19. Fodd bynnag, effeithiodd COVID-19 ar bob maes polisi a’r holl ddeddfwriaeth a drafodwyd gan y Pwyllgor yn ystod y pumed Senedd. Felly, mae adroddiad terfynol y Pwyllgor (i’w gyhoeddi yr wythnos sy’n dechrau ar 22 Mawrth) wedi’i lywio gan yr holl wersi a ddysgwyd yn ystod y cyfnod 2016-2021, yn ogystal â’r gwaith o graffu ar y ffordd y cafodd y pandemig COVID-19 ei reoli. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru a’r Pwyllgor perthnasol nesaf eu trafod yn ystod y chweched Senedd.

Nododd y Pwyllgor ei fod yn bwriadu ymdrin â’i waddol yn y modd hwn, gan amlinellu effaith COVID-19 ar ei waith, mewn llythyr at randdeiliaid (PDF, 195KB) a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/03/2021

Dogfennau