Ymchwiliad i Addysg Heblaw yn yr Ysgol

Inquiry5

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i'r ystod o ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion. Roedd yn canolbwyntio'n benodol ar:

  • Y cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl o addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys drwy eu gwahardd o ddarpariaeth brif ffrwd, a’r rhesymau dros y cymorth hwn;
  • Pa mor effeithiol y caiff rhieni gymorth a’u cynnwys drwy gydol proses addysg heblaw yn yr ysgol;
  • Yr amrywiad mewn cyfraddau addysg heblaw yn yr ysgol i blant a phobl ifanc â nodweddion penodol (megis dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig neu sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim) a chanlyniadau hyn;
  • Lefelau’r cymorth ariannol sydd ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, a’r rhai sydd mewn perygl o’i chael, ac a yw hyn yn cynrychioli gwerth am arian;
  • Cyfrifoldeb ac atebolrwydd am addysg disgyblion sy'n dod yn rhai sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol;
  • Cyrhaeddiad plant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol;
  • Canlyniadau a llesiant plant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol;
  • Ansawdd y cymorth a roddir i blant a phobl ifanc yn yr ystod o ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol;
  • Cymorth datblygiad proffesiynol i staff unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys y rhai sy'n darparu addysg yn y cartref;
  • Y risgiau posibl i blant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol fel rhwystrau cynyddol i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl, mwy o risg o ymwneud â throsedd a'r system cyfiawnder troseddol megis 'llinellau cyffuriau';
  • Materion eraill sydd â chysylltiad agos ag addysg heblaw yn yr ysgol, er enghraifft symudiadau wedi’u rheoli, a dadgofrestru disgyblion.

Roedd ymchwiliad y Pwyllgor yn cynnwys hyfforddiant mewn cartrefi unigol ond nid oedd yn canolbwyntio ar fater addysg ddewisol yn y cartref ar wahân.

 

Blog

Ymchwiliad i Addysg Heblaw yn yr Ysgol

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Sesiwn dystiolaeth

1. Sesiwn dystiolaeth

Ann Keane, Cyn-gadeirydd grŵp gorchwyl a gorffen EOTAS Llywodraeth Cymru (daeth y grŵp i ben ar ddechrau 2017)

Yr Athro Brett Pugh, Cadeirydd grŵp cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer EOTAS (y grŵp presennol)

22 Ionawr 2020

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

2. Comisiynydd Plant Cymru

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru (trwy gynhadledd fideo)

Jane Houston, Cynghorydd Polisi - Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru (trwy gynhadledd fideo)

5 Chwefror 2020

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

3. Estyn

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol – Estyn

Dyfrig Ellis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Estyn

Denise Wade, Arolygydd Ei Mawrhydi - Estyn

5 Chwefror 2020

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

4. Cynrychiolwyr o undebau athrawon

Mairead Canavan – Ysgrifennydd Rhanbarth Bro Morgannwg ac aelod o Weithrediaeth yr NEU

Tim Cox – Swyddog Polisi a Gwaith Achos Cymru, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT)

Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol - Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

5 Chwefror 2020

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

5. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Sharon Davies, Pennaeth Dysgu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac yn cynrychioli Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Nick Williams, Cyfarwyddwr Addysg, Cyngor Dinas a Sir Abertawe ac yn cynrychioli Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

David Hopkins, Pennaeth Addysg Dros Dro - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

5 Mawrth 2020

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

6. Y Samariaid a Mind Cymru

Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru, y Samariaid

Liz Williams, Swyddog Polisi a Chyfathrebu, y Samariaid

Dr Ian Johnson, Rheolwr, Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Mind Cymru

5 Mawrth 2020

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

 

Roedd y Gweinidog Addysg i fod i roi tystiolaeth ar 19 Mawrth 2020, ond yn sgil y pandemig COVID-19, roedd angen i'r Pwyllgor ail-bwrpasu'r sesiwn hon. Yn lle’r sesiwn, ysgrifennodd (PDF 272KB) y Pwyllgor at y Gweinidog Addysg i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn ysgrifenedig. Ar 16 Hydref 2020, ymatebodd (PDF 684KB) y Gweinidog Addysg.

 

Ymgysylltu â'r cyhoedd

Fel rhan o'n hymchwiliad, fe ddatblygwyd arolwg i sicrhau bod teuluoedd sy’n defnyddio EOTAS a staff sy'n gweithio mewn darpariaethau EOTAS yn cael rhannu eu sylwadau a'u profiadau a chyfrannu i’r ymchwiliad ehangach.

Rydym wedi llunio crynodeb (PDF 194KB) o'r canlyniadau.

 

Ar 28 Tachwedd 2019, ymwelodd aelodau’r Pwyllgor â thri lleoliad sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Roedd y lleoliadau hyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Chaernarfon.

Rydym wedi llunio crynodeb (PDF 171KB)  o'r canlyniadau.

Allbwn

Ar 23 Mawrth 2021, ysgrifennodd (PDF 217KB) y Pwyllgor at y Gweinidog Addysg yn tynnu sylw at yr egwyddorion allweddol sy'n deillio o'r dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad ar Addysg Heblaw yn yr Ysgol.

Ymatebodd (PDF, 258KB) Llywodraeth Cymru i ohebiaeth y Pwyllgor ar 31 Mawrth 2021.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/06/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau