Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 20/01/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn
amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar
www.senedd.tv. 1.3 Ni chafwyd ymddiheuriadau. 1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams
AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi
gan Brifysgol Abertawe. |
|
(09.30 - 11.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 - sesiwn dystiolaeth 2 Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Owain Lloyd,
Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg - Llywodraeth Cymru Huw Morris, Cyfarwyddwr,
Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes - Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Gweinidog y Gymraeg
ac Addysg mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. 2.2 Dywedodd y Gweinidog y byddai ei swyddogion yn
gweithio ochr yn ochr â chlercod y Pwyllgor, pe bai angen, er mwyn nodi yn y
dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd ganddo i'r Pwyllgor fanylion penodol am y
cyllid a ddarperir ar gyfer codi safonau mewn ysgolion. |
|
(11.00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn rhannu unrhyw ymatebion a gafwyd i
ymgynghoriad y Pwyllgor ar flaenoriaethau a fyddai'n berthnasol i ymchwiliad y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i anghydraddoldebau iechyd meddwl. |
|
Anghydraddoldebau iechyd meddwl Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: |
||
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen waith – Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23 Dogfennau ategol: |
||
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer y cyfarfod cyfan ar 27 Ionawr Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.00 - 11.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 – trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn
ystod y sesiwn flaenorol. |
|
(11.40 - 12.00) |
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymysg dysgwyr – trafod y dull gweithredu Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu o ran yr
ymchwiliad, yn amodol ar gael rhai rhanddeiliaid ychwanegol ar gyfer cael
tystiolaeth lafar a rhagor o wybodaeth am ddulliau eraill o ymgysylltu â phlant
a phobl ifanc. |
|
(12.15 - 12.30) |
Trafod amserlen y Pwyllgor Cofnodion: 7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod amserlen y Pwyllgor. Bydd
ymateb drafft yn cael ei drafod yng nghyfarfod yr wythnos nesaf. |