Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/07/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Chweched Senedd.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Ken Skates AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4  Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

(09.15 - 09.20)

2.

Cylch gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2 Nododd yr Aelodau y cylch gwaith.

 

(09.20)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Fforwm y Cadeiryddion

Dogfennau ategol:

3.2

Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

3.3

Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

3.4

Iechyd meddwl amenedigol

 

Dogfennau ategol:

3.5

Addysg heblaw yn yr ysgol

Dogfennau ategol:

(09.20)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod am weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.20 - 09.45)

5.

Gweithdrefnau'r pwyllgor a ffyrdd o weithio

Cofnodion:

5.1 Nododd yr Aelodau'r Rheolau Sefydlog sy'n llywodraethu busnes pwyllgor a'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r Pwyllgor yn ei waith.

5.2 Bu'r Aelodau'n trafod ac yn cytuno ar ddull cychwynnol o:

- Drefnu busnes, gan gynnwys amseroedd a fformatau’r cyfarfod.

- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu.

- Briffiau pwyllgor a dewisiadau iaith.

 

 

 

(09.45 - 10.00)

6.

Dull gweithredu strategol o ran cylch gwaith y Pwyllgor

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr Aelodau i ymgymryd â gweithgarwch yn nhymor yr hydref i ddatblygu a mabwysiadu dull strategol o wneud gwaith pwyllgor.

6.2 Nododd yr Aelodau bwysigrwydd:

- Sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed mewn gwaith pwyllgor.

- Mynd ar drywydd cyfleoedd i weithio ar y cyd â phwyllgorau eraill, lle bo hynny'n briodol. 

 

 

(10.00 - 10.45)

7.

Gweithgarwch cynnar y Pwyllgor

Cofnodion:

7.1 Cytunodd yr Aelodau i lansio ymgynghoriad â rhanddeiliaid dros yr haf gan wahodd safbwyntiau ar beth ddylai blaenoriaethau'r pwyllgor fod, i lywio ei gynllun strategol a'i raglennu gwaith tymor hwy. Byddai'r dyddiad cau ar ôl gwyliau'r ysgol gan ganiatáu cyfle i bobl mewn ysgolion gyfrannu.

7.2 Cytunodd yr Aelodau hefyd i gynnal gweithgarwch ymgysylltu wedi'i deilwra gyda phlant a phobl ifanc yn nhymor yr hydref, i ofyn am eu safbwyntiau ar flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd.

7.3 Bu'r Aelodau'n trafod ac yn cytuno i wahodd y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog/Dirprwy Weinidog Iechyd i gyfarfod cyntaf tymor yr hydref, i drafod eu blaenoriaethau. Nododd yr Aelodau yr angen i gysylltu â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro a achosir gan amserlen y pwyllgor. Gofynnir am bapur ysgrifenedig ymlaen llaw i lywio'r sesiwn.

7.4 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi prif raglen waith ar sail dreigl.