Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/06/2024 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus |
|
(9:15-9:30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 2. Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol - Diweddariad cynnydd ar Gynllun Dysgu a Gwella Parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2023-25 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n ysgrifennu at
Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i ofyn am ei farn am y diweddariad i'r
cynllun. |
||
Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid - Hysbysiad o sefyllfa o ran dyddiad cau archwilio Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at Brif Swyddog Fferyllol ar y cynllun peilot paru data Fferylliaeth Gymunedol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol Grwp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar / Prif Weithredwr GIG Cymru - Dilyniant ar y sesiwn dystiolaeth ar Gyllid a Llywodraethu'r GIG Dogfennau ategol: |
||
Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilio Cymru: Llywodraethu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Cyfarwyddwr Priodoldeb a Moeseg - Dilyniant i'r sesiwn ar Llawlyfr y Cabinet a Thrafodaethau Mynediad Dogfennau ategol: |
||
(9:30-11:00) |
Sesiwn Dystiolaeth - Local Partnerships LLP Swyddogion
Llywodraeth Cymru Tim Moss - Prif
Swyddog Gweithredu Andrew Jeffreys -
Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru Ed Sherriff - Dirprwy
Gyfarwyddwr Ynni Leon Wong - Cyfarwyddwr
Partneriaethau Lleol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Holodd yr Aelodau'r tystion yn y sesiwn dystiolaeth
ar Local Partnerships LLP. |
|
(11:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11:10-11:30) |
Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law - Local Partnerships LLP Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a
chytunwyd i ysgrifennu at y Llywodraeth i ofyn am ragor o wybodaeth am y
pwyntiau a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth cyn penderfynu ar unrhyw gamau
pellach ar y mater hwn. |
|
(11:30-11:40) |
Papurau i'w nodi (Preifat) Cofnodion: 6. Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Busnes ar cylchoedd gwaith y pwyllgorau Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1. Nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw sylwadau pellach i'w
gwneud mewn perthynas â chylch gwaith y Pwyllgor. |
||
Llythyr gan y Cyfarwyddwr Priodoldeb a Moeseg - Llawlyfr y Cabinet Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n gofyn i Lywodraeth
Cymru am dystiolaeth bellach ar y mater hwn cyn toriad yr haf. |
||
(11:40-11:50) |
Trafodaeth o'r llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Prif Swyddog Fferyllol ar y Peilot Paru Data Fferylliaeth Gymunedol Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n ysgrifennu at y Prif
Swyddog Fferyllol i ofyn am ymateb i'r pwyntiau a godwyd. |
|
(11:50-12:00) |
Trafodaeth o ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilio Cymru: Llywodraethu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cofnodion: 8.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb a chytunwyd i fonitro
unrhyw ddatblygiadau ar y mater hwn. |