Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/03/2022 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.

 

(09.15 - 09.30)

2.

Papur i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus: Llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (31 Ionawr 2022)

Dogfennau ategol:

2.2

Rhwystrau rhag gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (15 Chwefror 2022)

Dogfennau ategol:

2.3

Craffu ar Gyfrifon – Comisiwn y Senedd: Gohebiaeth ar ddefnyddio'r term BAME

Dogfennau ategol:

(09.30 - 11.00)

3.

Materion llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Bwrdd Iechyd

Mark Polin – Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Jo Whitehead – Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gill Harris – Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Sue Hill – Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gill Harris. Roedd Teresa Owen yn bresennol yn ei lle.

3.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan dystion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cytunodd y tystion i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am nifer o gamau gweithredu ym mis Medi 2022.

 

(11.10 - 12.00)

4.

Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd Llywodraeth Cymru ar gyfer GIG Cymru

Judith Paget – Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd/Prif Weithredwr y GIG

Chris Jones - Dirprwy Brif Swyddog Meddygol/Cyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru

Steve Elliot - Cyfarwyddwr Cyllid dros dro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan y tystion o Lywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion gyda'r cwestiynau o'r sesiwn.

 

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 6

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

(12.00 - 12.30)

6.

Materion llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.