Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/12/2023 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofrestru (09.00-09.15)

Rhag–gyfarfod preifat (09.15-09.30)

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Fox AS.

 

1.3 Roedd Laura Anne Jones AS yn dirprwyo ar ran Peter Fox AS.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd a 15 Tachwedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 – Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Papurau tystiolaeth yn cefnogi Cyllideb Ddrafft 2024-25 - 27 Hydref 2023

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Llythyr gan y Prif Weinidog: Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid ar y Bil Bwyd (Cymru) Argymhelliad 1 - 15 Tachwedd 2023

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau: Sesiwn dystiolaeth ar gyfer Deiseb P-06-1358 Adolygu’r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru - 22 Tachwedd 2023

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 - Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 - Memorandwm Esboniadol Diwygiedig - 22 Tachwedd 2023

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Grant Setliad Refeniw - 29 Tachwedd 2023

Dogfennau ategol:

2.6

PTN 6 - Bil Seilwaith (Cymru): Ymateb Llywodraeth Cymru - 1 Rhagfyr 2023

Dogfennau ategol:

2.7

PTN 7 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Datganiad o egwyddorion i gyrff a ariennir yn uniongyrchol – 14 Tachwedd 2023

Dogfennau ategol:

(09.30-11.00)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Sesiwn dystiolaeth 1

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth

 

Dogfennau ategol:

Pecyn ymatebion i’r ymgynghoriad

FIN(6)-21-23 P1 - Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllideb a Busnes y Llywodraeth.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y canlynol:

 

·         Sut mae datchwyddwr CMC a mynegeion mynegai CPI yn gweithio, a pham ddewisodd Llywodraeth Cymru y mynegai CPI wrth gyfrifo chwyddiant, yng nghyd-destun y Gyllideb Ddrafft.

 

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.00-11.15)

5.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.