P-06-1358 Adolygu'r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru
P-06-1358 Adolygu'r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Martin Price, ar ôl casglu cyfanswm o 7,007
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae gan lawer o ysgolion ddiffyg yn y cyllidebau a osodwyd ganddynt ar
gyfer blwyddyn ariannol 2023-24. Yn fwy na hynny, mae’n bosibl y bydd y rhan
fwyaf o ysgolion yn cyhoeddi diffyg yn eu cyllidebau ar gyfer 2024-25. Mae’r
effeithiau ar blant yn ysgolion Cymru yn ddifrifol – addysgu a dysgu gwaeth,
adeiladau gwaeth, pryderon ynghylch diogelwch a gorflinder staff.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Paratowyd y ddeiseb hon gan Gadeiryddion Cymdeithasau Llywodraethwyr ledled
Cymru.
Mae effeithiau cyllid isel ar blant yn ysgolion Cymru fel a ganlyn:
• Gostyngiad yn ansawdd y dysgu ac addysgu
• Cymarebau oedolion/dysgwyr uwch
• Iechyd a diogelwch – llai o oruchwyliaeth oedolion, er enghraifft amser
cinio ac egwylion
• Llai o staff cymorth, sy'n golygu bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol
mewn perygl o beidio â chael yr help sydd ei angen arnynt
• Llai o oedolion mewn ystafelloedd dosbarth, sy’n rhoi pawb mewn perygl
• Llai o athrawon – naill ai oherwydd staff yn gadael a neb yn cymryd eu
lle neu oherwydd dileu swyddi
• Llai o waith cynnal a chadw ar adeiladau sy’n arwain at bryderon
diogelwch
• Mwy o straen ar benaethiaid ac uwch-staff, sy’n arwain at fwy o
absenoldeb oherwydd salwch a gorflinder
Ac ar yr un pryd mae ysgolion yn brwydro i roi diwygiadau addysgol ar
waith.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i adolygu ar fyrder lefel y cyllid ar
gyfer addysg ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf. Mae
ein plant yn haeddu'r addysg orau ac ni ddylent ddioddef oherwydd toriadau
ariannol.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae
proses Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2023