Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. 1.2
Ni chafwyd dim ymddiheuriadau,
dirprwyon na datganiadau o fuddiant. |
|
(10.15) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN 1 - Ymateb Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar ei waith craffu blynyddol ar rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 26 Ionawr 2024 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2 - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Oblygiadau Ariannol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 26 Ionawr 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.2.1 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
yn gofyn am ragor o wybodaeth mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor ar gostau
sy’n ymwneud â Chomisiwn y Senedd sy’n deillio o’r Bil. |
||
PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024 - 17 Ionawr 2024 Dogfennau ategol: |
||
PTN 4 - Llythyr gan Archwilio Cymru: Ymateb i waith craffu blynyddol y Pwyllgor Cyllid ar Swyddfa Archwilio Cymru – 1 Chwefror 2024 Dogfennau ategol: |
||
PTN 5 - Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Ymateb Llywodraeth Cymru - 1 Chwefror 2024 Dogfennau ategol: |
||
(10.15-11:00) |
Goblygiadau ariannol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Emyr Harries,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Addysg, Busnes a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru Lloyd Hopkin, Dirprwy
Gyfarwyddwr Cwricwlwm, Llywodraeth Cymru Dogfennau
atodedig: Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru), fel y’i
cyflwynwyd Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd FIN(6)-04-24 -
Papur 1 - Papur Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru FIN(6)-04-24
Papur 2 - Llythyr gan Sam Rowlands AS at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg, 23 Ionawr 2024 (Saesneg yn unig) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Addysg Awyr
Agored Breswyl (Cymru) gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg; Emyr
Harries, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio Busnes a Llywodraethiant Addysg; a Lloyd
Hopkin, Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm. 3.2 Cytunodd
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ddarparu nodyn ar drefniadau arolygu ar gyfer
canolfannau gweithgareddau awyr agored preswyl a chostau cysylltiedig. |
|
(11.15-12.15) |
Goblygiadau ariannol Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Simon Tew –
Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru Ben Crudge - Pennaeth
Polisi Trethi Lleol, Llywodraeth Cymru Dogfennau
atodedig: Bil Cyllid
Llywodraeth Leol (Cymru) Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Cyllid
Llywodraeth Leol (Cymru) gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth
Leol; Ben Crudge, Pennaeth Polisi Trethi Lleol; a Simon Tew, Rheolwr y Bil. |
|
(12.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.15-12.30) |
Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |