Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/02/2023 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cofrestru (09.30-09.45) |
||
Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09.45-10.00) |
||
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. 1.2 Dirprwyodd Sam Rowlands AS ar ran Peter Fox AS. |
|
(10.00) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rhagor o wybodaeth yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 14 Rhagfyr - 17 Ionawr 2023 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Newidiadau Arfaethedig i Brotocol y Gyllideb - 17 Ionawr 2023 Dogfennau ategol: |
||
PTN 3 - Llythyr gan y Prif Weithredwr a’r Clerc at y Pwyllgor: Taliad costau byw i staff y Comisiwn - 19 Ionawr 2023 Dogfennau ategol: |
||
PTN 4 - Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol: Gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru 2021-22 - 19 Ionawr 2023 Dogfennau ategol: |
||
PTN 5 - Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) - 27 Ionawr 2023 Dogfennau ategol: |
||
PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Pwyllgor Sefydlog Cyllid Rhyngweinidogol (F:ISC) - 30 Ionawr 2023 Dogfennau ategol: |
||
PTN 7 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) - 18 Ionawr 2023 Dogfennau ategol: |
||
(10.00-10.30) |
Goblygiadau ariannol y Bil Bwyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1 Lesley Griffiths
AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd David
Lloyd-Thomas, Pennaeth yr Uned Polisi a Strategaeth Bwyd, Llywodraeth Cymru Dogfennau
ategol: Bil Bwyd (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF,
191KB) Memorandwm Esboniadol (PDF, 1.1MB) P1 – Llyodraeth Cymru:
Papur tystiolaeth Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar oblygiadau ariannol
y Bil Bwyd (Cymru) gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a
Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a chan David Lloyd-Thomas, Pennaeth yr Uned Polisi
a Strategaeth Bwyd, Llywodraeth Cymru. |
|
Egwyl (10.30-11.15) |
||
(11.15-12.15) |
Goblygiadau ariannol y Bil Bwyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 2 Peter Fox AS, yr
Aelod cyfrifol Tyler Walsh,
Staff Cymorth Aelod o’r Senedd Martin Jennings, Ymchwil
y Senedd Elfyn Henderson, Ymchwil
y Senedd Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar oblygiadau ariannol
y Bil Bwyd (Cymru) gan Peter Fox AS, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil; Tyler
Walsh, Staff Cymorth Aelod o’r Senedd; Martin Jennings, y Gwasanaeth Ymchwil;
ac Elfyn Henderson, y Gwasanaeth Ymchwil. |
|
(12.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.15-12.30) |
Bil Bwyd (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.30-12.35) |
Cynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2023-24 Dogfennau
ategol: P2 - Cynllun
Ffioedd Diwygiedig 2023-24 P3 - Llythyr oddi
wrth Archwilio Cymru: Cynllun Ffioedd Diwygiedig 2023-24 – 2 Chwefror 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilio
Cymru cywiredig ar gyfer 2023-24 o dan Reolau Sefydlog 18.10(x) yn unol ag
adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. |