Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/09/2021 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv

Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09.15-09.30)

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 2, 8 a 14 Gorffennaf a 15 Medi 2021.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 – Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes: Amserlen y pwyllgorau – 14 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 – Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru 2022-23 – 16 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig ar gyfer is-ddeddfwriaeth – 1 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Treth Trafodiadau Tir – Adolygiad annibynnol – 28 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth ychwanegol am symiau canlyniadol Barnett a chymorth busnes – 19 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:

2.6

PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyfarfod Pedrochrog y Gweinidogion Cyllid ar 20 Gorffennaf – 14 Medi 2021

Dogfennau ategol:

2.7

PTN 7 – Craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22: Ymateb Llywodraeth Cymru – 23 Awst 2021

Dogfennau ategol:

2.8

PTN 8 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Datganiad o egwyddorion i gyrff a ariennir yn uniongyrchol – 2 Awst 2021

Dogfennau ategol:

2.9

PTN 9 – Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd: Goruchwyliaeth ariannol y Comisiwn Etholiadol – 9 Medi 2021

Dogfennau ategol:

2.10

PTN 10 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Blaenoriaethau plant a phobl ifanc ar gyfer y Chweched Senedd – 20 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:

2.11

PTN 11 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Cydweithio rhwng pwyllgorau yn y Chweched Senedd – 10 Awst 2021

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Sesiwn ragarweiniol gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru

Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol, Llywodraeth Cymru

 

Papurau ategol:

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:

 

·         y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud gan Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb a'r rôl ehangach y gall ei chwarae o ran ystyried proses y gyllideb;

·         nodyn ar sut y bydd y cyllid canlyniadol a fydd yn deillio o’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol yn llifo i gyllideb Llywodraeth Cymru.

 

Egwyl (10.30 – 10.40)

(10.40-11.40)

4.

Goruchwylio Archwilio Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21 a Chynllun Blynyddol 2021-22: Sesiwn dystiolaeth

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Lindsay Foyster, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru 

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol

 

Papurau ategol:

FIN(6)-05-21 P1 - Archwilio Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21

FIN(6)-05-21 P2 - Archwilio Cymru - Adroddiad ar Ganfyddiadau'r Archwiliad – y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021

FIN(6)-05-21 P3 - Archwilio Cymru - Cynllun Blynyddol 2021-22

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, a swyddogion Archwilio Cymru.

 

4.2 Cadeiriodd Peter Fox AS ran o’r eitem dros dro oherwydd materion technegol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

4.3 Cytunodd Archwilio Cymru i ddarparu'r canlynol:

 

·         nodyn ar y cynllun strategol 5 mlynedd sy'n cael ei ddatblygu er mwyn blaenoriaethu prif bwyntiau’r broses o drawsnewid y sefydliad.

·         nodyn ar yr adolygiad o bolisïau teithio a chynhaliaeth.

 

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.40-11.50)

6.

Goruchwylio Archwilio Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21 a Chynllun Blynyddol 2021-22: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.50-12.00)

7.

Sesiwn ragarweiniol gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.00-12.20)

8.

Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft

Papurau ategol:

FIN(6)-05-21 P4 - Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor i drafod yr eitem hon mewn cyfarfod yn y dyfodol.