Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/03/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)464 - Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

2.2

SL(6)467 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2024

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

2.3

SL(6)469 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(13.35 - 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)465 - Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.40 - 13.45)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(6)456 - Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

4.2

SL(6)462 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

4.3

SL(6)463 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(13.45 - 13.50)

5.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 - trafodwyd yn flaenorol

5.1

SL(6)460 - Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(13.50 - 13.55)

6.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

6.1

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Grwpiau Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd mewn cysylltiad â chyfarfodydd y canlynol:

·         y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, ac

·         y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU ar UE.

6.2

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Lleol: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

6.3

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol etc.) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

6.4

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau’r Amgylchedd a Materion Gwledig (Dirymu a Darpariaeth Ganlyniadol) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

(13.55 - 14.00)

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE: Adroddiad cryno’r pedwerydd cyfarfod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad cryno ar bedwerydd cyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE, a luniwyd ar ran Huw Irranca-Davies a Sam Kurtz, a oedd yn cynrychioli’r Senedd yn y cyfarfod.

7.2

Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Craffu ar waith Gweinidogion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

7.3

Gohebiaeth oddi wrth y Llywydd: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Llywydd.

(14.00)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

(14.00 - 14.05)

9.

Cywiriadau i Offerynnau Statudol Cymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor gywiriadau Llywodraeth Cymru i Offerynnau Statudol, a chytunodd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i ofyn am ragor o wybodaeth.

(14.05 - 14.15)

10.

Llythyr drafft at Gadeirydd Dirprwyaeth Senedd Ewrop i Gynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft at Gadeirydd Dirprwyaeth Senedd Ewrop i Gynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE, a chytunodd arno. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Gadeirydd Dirprwyaeth Senedd y DU i Gynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE.