Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/06/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac nid oedd dirprwyon yn
bresennol. |
|
(13.30 – 14.30) |
Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Aelod sy'n gyfrifol Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), fel
y'i cyflwynwyd Dawn Bowden AS, y
Gweinidog Gofal Cymdeithasol Tracy Hull,
Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Anthony Jordan,
Pennaeth Rhaglen a Gweithredu Deddfwriaethol, Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru Mike Lubienski,
Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Iechyd a Gofal
Cymdeithasol (Cymru) gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol. |
|
(14.35 – 14.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)489 - Rheoliadau Addysg (Cydgysylltu Trefniadau Derbyn i Ysgolion a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)490 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
(14.40 – 14.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)486 - Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)487 - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a'r
Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. |
||
(14.45 – 14.50) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau i'w trafod o dan y Cytundeb
Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol. |
|
(14.50 – 14.55) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Sesiwn graffu gyffredinol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog a
chytunodd i ymateb maes o law. |
||
Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Cytundeb rhwng y DU a Denmarc ar gyfranogiad mewn etholiadau penodol gan wladolion o’r naill wlad sy'n preswylio yn nhiriogaeth y llall Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Trefnydd a'r Prif Chwip: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Trefnydd a’r Prif Chwip. |
||
(14.55) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.55 – 15.10) |
Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y
Gweinidog Gofal Cymdeithasol, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn
cwestiynau ychwanegol. |
|
(15.10 - 15.15) |
Gohebiaeth gan Adam Price AS mewn cysylltiad â Charchar EF Parc: Ystyriaeth bellach Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Adam Price AS a
chytunodd ar ei gamau nesaf. |