Agenda

Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 329 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.         
Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.         
Gweld y Cwestiynau

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 eiliad

(60 munud)

5.

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16

NDM9134 Buffy Williams (Rhondda) 

Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Tachwedd 2025. 

Noder: Gosodwyd ymatebion i'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru a Medr yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2026. 

(30 munud)

6.

Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru

NDM9133 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru) 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ‘Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2025, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 28 Ionawr 2026.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Llywodraethiant byrddau iechyd

NDM9135 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

 Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod y mis hwn yn nodi tair blynedd ers dychwelyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fesurau arbennig; a

b) bod pob bwrdd iechyd mawr arall yng Nghymru o dan ryw fath o ymyrraeth wedi'i thargedu.

2. Yn gresynu:

a) bod Betsi Cadwaladr wedi treulio dros ddwy ran o dair o’i oes mewn mesurau arbennig—yn hwy nag unrhyw fwrdd iechyd arall yn hanes y GIG, a

b) bod pobl gogledd Cymru yn parhau i wynebu safonau gwael, amseroedd aros annerbyniol a diffygion sefydliadol parhaus o dan Lywodraeth Lafur Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cryfhau ei harweinyddiaeth wleidyddol i wella safonau a dal y bwrdd iechyd i gyfrif;

b) gweithredu argymhellion adroddiad Plaid Cymru - System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant i ddiwygio trefniadau llywodraethiant y GIG;

c) cyhoeddi canfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol diweddar i fylchau mewn data rhestrau aros Betsi Cadwaladr: a

d) cyflymu sefydlu hybiau llawfeddygol wedi'u staffio'n llawn o fewn Betsi Cadwaladr.

Adroddiad Plaid Cymru:  System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:   
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod cynnydd wedi’i wneud o ran arweinyddiaeth, llywodraethiant corfforaethol, ansawdd a diogelwch, rheolaeth ariannol, ac ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi o dan fesurau arbennig eto yn 2023; a

b) bod cynnydd yn cael ei wneud gan bob bwrdd iechyd sydd wedi’i uwchgyfeirio.
2. Yn cydnabod y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol diweddar i fylchau yn nata rhestrau aros Betsi Cadwaladr, a’r adroddiad cynnydd diweddaraf ar y mesurau arbennig, ym mis Mawrth.

3. Yn cefnogi aelodau ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol wrth iddynt barhau i weithio dan bwysau i ddiwallu anghenion cleifion.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei ddad-ddethol.
 

Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) derbyn cyfrifoldeb am y methiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ymddiheuro am fethu â mynd i'r afael â'r diffygion ym maes gofal iechyd yng ngogledd Cymru;

b) datgan argyfwng iechyd;

c) cynyddu capasiti gwelyau i sicrhau diogelwch cleifion a gwella mynediad at ofal brys;

d) sefydlu canolfannau llawfeddygol ar frys i helpu i glirio'r ôl-groniad o ran amseroedd aros;

e) diogelu a gwella'r rhwydwaith ysbytai cymunedol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys darparu ysbyty cymunedol gogledd Sir Ddinbych, a mwy o unedau mân anafiadau; ac

f) cychwyn ymchwiliad annibynnol i fethiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddysgu gwersi, dal pobl i gyfrif am fethiannau, a sicrhau y gellir cyflawni a chynnal gwelliant sylweddol.

Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. 

Gwelliant 3 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) 
Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt (b) a rhoi yn ei le:

cynnal adolygiad cynhwysfawr o drefniadau llywodraethu, arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru, gyda'r bwriad o gryfhau goruchwyliaeth, gwella perfformiad, a sicrhau safonau gofal cyson i gleifion.

8.

Cyfnod pleidleisio

(0 munud)

9.

Dadl Fer - Julie Morgan

Gohiriwyd tan 11 Chwefror