Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16

Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16

Inquiry3

 

A group of people sitting at tables

Description automatically generated

 

Adroddiad

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher 12 Tachwedd 2025.

 

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16.

 

Cefndir yr ymchwiliad

 

Mae rhanddeiliaid wedi ysgrifennu at y Pwyllgor yn mynegi pryderon ynghylch cyfraddau cyfranogiad mewn addysg bellach ac addysg uwch. Maent wedi nodi’r canlynol:

>>>> 

>>>Roedd canran y bobl ifanc 18 oed sy’n hanu o Gymru a aeth i addysg uwch yn 2023/24 yn 29.9%, o gymharu â 49.5% yn Llundain, 40.2% yng Ngogledd Iwerddon a 38.5% yn Ne Ddwyrain Lloegr.

>>>Yn y DU yn gyffredinol, mae'r rhai yng nghategori Mynegai Amddifadedd Lluosog (IMD) Chwintel 1 (y mwyaf difreintiedig) yn cofrestru ar gyfradd o 26% tra yng Nghymru mae ar gyfradd o 18.9%. Mae gwahaniaethau rhanbarthol sylweddol hefyd: mae pobl ifanc cwintel 1 yn ne Cymru yn fwy tebygol o gael mynediad at addysg uwch na phobl ifanc cwintel 1 yng ngogledd Cymru.

>>>Mae niferoedd cynyddol y myfyrwyr o Loegr sy’n dewis astudio yng Nghymru yn cuddio heriau o ran cyfranogiad ymhlith pobl ifanc sy’n hanu o Gymru.

>>>Mae gwahaniaethau o fewn ffigurau Cymru yn seiliedig ar y Mynegai Amddifadedd Lluosog (IMD) a rhanbarthau. Aeth 18.9% o'r rhai yng nghwintel mwyaf difreintiedig yr IMD yng Nghymru i addysg uwch, o gymharu â 26% yn yr un cwintel ar draws y DU gyfan. Mae data lleoliad ar gyfer pobl ifanc 16-17 oed yn dameidiog ar hyn o bryd ac yn darparu atebion cyfyngedig.

<<< 

 

Ysgrifennodd (PDF 162KB) y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Ebrill 2024 gan godi rhai o’r pryderon hyn. Daeth ymateb i law (PDF 168KB) ym mis Mehefin 2024.

Ar 6 Tachwedd 2024, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i’r materion a amlinellir uchod. Cytunodd y Pwyllgor fod addysg uwch yn un o ystod o opsiynau sy'n agored i bobl ifanc ac y dylai'r ymchwiliad ystyried llwybrau i addysg a hyfforddiant ôl-16 yn ehangach.

Beth y bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio arno

>>>> 

>>>Ansawdd y wybodaeth a roddir i ddysgwyr am yr ystod lawn o opsiynau ôl-16 (llwybrau galwedigaethol ac academaidd ôl-16, h.y. addysg bellach, chweched dosbarth, prentisiaethau a hyfforddiant, ac ymlaen i addysg uwch)

>>>Pa mor effeithiol yw cymorth gyrfaoedd ar oedran ysgol gorfodol

>>>Newidiadau i lwybrau ôl-18

>>>Addysg cyfrwng Cymraeg

>>>Mynediad cyfartal

>>>Data lleoliad ôl-16

>>>Rôl Llywodraeth Cymru

<<<

Mae’r cylch gorchwyl llawn wedi’i gyhoeddi ar dudalen yr ymgynghoriad.

 

Ymgynghoriad

 

Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 3 Rhagfyr 2024. Daeth i ben ar 27 Ionawr 2024. Mae'r holl ymatebion wedi cael eu cyhoeddi.

 

Casglu tystiolaeth lafar

Cynhaliodd y Pwyllgor gyfres o sesiynau tystiolaeth lafar ffurfiol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025. Mae trawsgrifiadau o'r cyfarfodydd hyn ar gael drwy ddilyn y tab 'cyfarfodydd cysylltiedig' ar frig y dudalen hon.

At hynny, mae'r Pwyllgor wedi cynnal digwyddiad i randdeiliaid, ac wedi cynnal gweithgareddau ymgysylltu. Mae crynodeb o ganfyddiadau'r Pwyllgor (PDF 294KB) ar gael.

Cyhoeddir gwybodaeth a gyflwynwyd yn dilyn sesiwn tystiolaeth lafar, digwyddiad neu ymweliad â rhanddeiliaid ar y dudalen ymgynghori.


At hynny, mae Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion Comisiwn y Senedd wedi cynnal gweithgareddau ymgysylltu â dinasyddion ar ran y Pwyllgor. Lansiodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion ddau arolwg: un wedi'i anelu at rieni/gwarcheidwaid pobl 16–20 oed, ac un arall wedi'i anelu at bobl ifanc. Sicrhawyd bod fersiwn hawdd ei darllen o'r arolwg ar gyfer pobl ifanc (PDF 862KB) ar gael. Cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion gyfweliadau wyneb yn wyneb, hefyd, gyda hwyluswyr a phobl ifanc sy’n perthyn i leoliadau addysg eraill, i ategu'r arolygon. Mae adroddiad cryno o ganfyddiadau'r Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion (PDF 833KB) ar gael.

 

Casglu tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol

 

Mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu at rai rhanddeiliaid i gasglu rhagor o wybodaeth am faterion penodol:

>>>> 

>>>Ar 22 Ebrill 2025, ysgrifennodd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru (PDF 142KB) ynghylch amrywiol faterion yn ymwneud â'r ymchwiliad. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb (PDF 332KB) ar 19 Mai 2025.

>>>Ar 22 Ebrill 2025, ysgrifennodd y Pwyllgor at Gyrfa Cymru (PDF 115KB) ynglŷn â chyngor gyrfaoedd a phrofiad gwaith. Ymatebodd Gyrfa Cymru (PDF 394KB) ar 16 Mai 2025.

>>>Ar 22 Ebrill 2025, ysgrifennodd y Pwyllgor at ColegauCymru (PDF 125KB) ynglŷn â phrentisiaethau iau. Ymatebodd ColegauCymru (PDF 356KB) ar 18 Mai 2025.

<<< 

 

Bydd yr holl dystiolaeth y mae'r Pwyllgor yn ei chasglu yn ei helpu i ddeall materion allweddol, dod i gasgliadau, a gwneud argymhellion gwybodus.

 

Gohebiaeth

>>>> 

>>>Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – 24 Hydref 2025 (PDF 106KB)

>>>Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – 14 Gorffennaf 2025 (PDF 168KB)

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â SeneddPlant@Senedd.Cymru

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/11/2024

Dogfennau

Ymgynghoriadau