Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 323 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/01/2026 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Ar ôl i’rPwyllgor o’r Senedd Gyfan ddod i ben, dechreuodd y Cyfarfod Llawn am 13.35. Canwyd y gloch 5 munud cyn ailgynnull.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.     

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.35 

Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. 

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.     

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 2 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. 

(10 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.10

Gofynnwyd y 2 gwestiwn.

(20 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Siân Gwenllian (Arfon): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu datganiad ar Consumer Energy Solutions yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.16 

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio 
Siân Gwenllian (Arfon): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu datganiad ar Consumer Energy Solutions yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? 

(5 munud)

5.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.33 

Gwnaeth John Griffiths ddatganiad ar Wythnos Ymwybyddiaeth Canserau Llai Goroesadwy (12 i 16 Ionawr). 

(60 munud)

6.

Dadl ar ddeiseb P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.35 

NDM9101Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg.’ a gasglodd 11,790 o lofnodion. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Am 16.21 cododd Janet Finch-Saunders bwynt o drefn i fynd i'r afael â sylw a wnaed gan Lee Waters tuag at Laura Anne Jones yn dilyn ei ymyriad i’w chyfraniad yn ystod Eitem 6. 

Am 16.42 gofynnodd y Dirprwy Lywydd i Lee Waters dynnu ei sylw yn ôl. Cydymffurfiodd yr Aelod.

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Treth Trafodiadau Tir

NDM9100 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i ddileu treth trafodiadau tir ar gyfer prif breswylfeydd yng Nghymru.

Cyflwynwydygwelliantaganlyn:     
Gwelliant
1  Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) archwilio diwygio pellach i'r system dreth fel dull o ddisodli’r dreth trafodiadau tir yn y pen draw mewn modd cynaliadwy: a

b) mynnu datganoli pellach o bwerau treth i Gymru gan San Steffan, gan gynnwys y gallu i gyflwyno treth tir gwag a'r gallu i osod bandiau treth incwm penodol i Gymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.43 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: 

NDM9100Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i ddileu treth trafodiadau tir ar gyfer prif breswylfeydd yng Nghymru. 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

12 

39 

51 

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant1 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) archwilio diwygio pellach i'r system dreth fel dull o ddisodli’r dreth trafodiadau tir yn y pen draw mewn modd cynaliadwy: a 

b) mynnu datganoli pellach o bwerau treth i Gymru gan San Steffan, gan gynnwys y gallu i gyflwyno treth tir gwag a'r gallu i osod bandiau treth incwm penodol i Gymru. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

13 

38 

51 

Gwrthodwyd gwelliant 1. 

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. 

(60 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru - Etholiad y Senedd

NDM9102 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi etholiad y Senedd sydd i’w gynnal ar 7 Mai 2026.

2. Yn credu bod etholiad y Senedd yn rhoi cyfle i arwain Cymru o’r newydd.

3. Yn galw am weithredu cynigion Plaid Cymru i:

a) cyflwyno cynllun rhestrau aros i glirio'r ôl-groniad presennol, i roi'r GIG ar sylfaen fwy cynaliadwy a sicrhau nad yw cleifion yn aros blynyddoedd mewn poen am driniaeth;

b) sefydlu asiantaeth ddatblygu genedlaethol newydd, gan ddarparu 'siop un stop' ar gyfer cymorth busnes, gan gefnogi a thyfu busnesau Cymreig ym mhob cam o'u datblygiad;

c) cyflwyno cynnig gofal plant sy’n darparu o leiaf 20 awr yr wythnos i bob plentyn, gan roi'r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a chaniatáu i rieni ddychwelyd i'r gwaith;

d) cyflwyno cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol i sefydlu meincnodau cenedlaethol, darparu cefnogaeth wedi'i thargedu, a sicrhau addysgu o ansawdd uchel a thracio cynnydd tryloyw; ac

e) cyflwyno bil Cymru newydd i sicrhau cydraddoldeb pwerau datganoledig â'r Alban, fel dull angenrheidiol i ddatgloi potensial Cymru.

4. Yn gresynu bod 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru wedi arwain at:

a) dros 8,700 o lwybrau gofal yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, er gwaethaf y targed i ddileu amseroedd aros o'r fath yn llwyr erbyn mis Mawrth 2023;

b) cyfraddau incwm gwario gros isaf y pen ac incwm sylfaenol y pen yng Nghymru sydd yr ail isaf o holl genhedloedd a rhanbarthau'r DU, gyda'r ddau yn gostwng fel cyfran o gyfartaledd y DU; ac

c) sgoriau PISA Cymru mewn llythrennedd a rhifedd sydd yr isaf erioed ers cymryd rhan yn y rhaglen am y tro cyntaf yn 2006, a'r isaf ymhlith cenhedloedd y DU am y pumed tro yn olynol.

5. Yn gresynu ymhellach fod partneriaeth mewn pwêr Llafur wedi gadael Cymru i lawr.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:   
Gwelliant 1Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi etholiad y Senedd sydd i’w gynnal ar 7 Mai 2026.

2. Yn credu bod etholiad y Senedd yn rhoi cyfle i arwain Cymru o’r newydd.

3. Yn gresynu bod 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi arwain at:

a) un o bob pedwar o boblogaeth Cymru ar restr aros GIG;

b) y gyfradd ddiweithdra uchaf a'r cyflog isaf yn y Deyrnas Unedig;

c) canlyniadau PISA Cymru yn gostwng i'r lefel isaf erioed mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, yr isaf o holl wledydd y DU am y pumed tro yn olynol;

d) arian trethdalwyr yn cael ei wastraffu ar wariant nad yw'n ddatganoledig ac ehangu'r Senedd;

e) economi Cymru yn cael ei ddal yn ôl gyda'r cynnig ardrethi busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain Fawr, y terfyn cyflymder 20mya diofyn, a chyfraddau treth trafodiadau tir sy'n mygu'r farchnad dai;

f) teuluoedd sy'n gweithio yn cael eu taro â'r costau gofal plant uchaf a'r cynnig gofal plant gwaethaf ym Mhrydain Fawr; a

g) y cynllun ffermio cynaliadwy sy'n peryglu colli swyddi a bywoliaethau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i:

a) datgan argyfwng iechyd yn y GIG yng Nghymru, dileu amseroedd aros gormodol mewn adrannau brys, ar gyfer ambiwlansys, profion a thriniaeth, cyflwyno gwarant aros meddygon teulu, a hyrwyddo dewis cleifion fel sbardun ar gyfer gwella gofal iechyd;

b) sicrhau bod economi Cymru yn symud drwy dorri'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm, dileu ardrethi busnes i fusnesau bach, adfer y terfyn cyflymder diofyn i 30mya, buddsoddi mewn seilwaith ffyrdd, a dileu'r dreth trafodiadau tir ar gyfer prif gartrefi;

c) gwella deilliannau addysg yng Nghymru drwy adfer disgyblaeth a pharch mewn ysgolion yng Nghymru, bod yn llym ynghylch trais ac ymddygiad gwael, gwahardd ffonau symudol yn ystafelloedd dosbarth Cymru, grymuso athrawon, a galluogi sefydlu ysgolion academi;

d) rhoi'r gorau i wario arian trethdalwyr ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli, a gwrthdroi ehangu'r Senedd;

e) cefnogi teuluoedd sy'n gweithio trwy gael cynnig gofal plant cyfatebol i'r hyn sydd ar gael yn Lloegr; ac

f) dileu a disodli'r cynllun ffermio cynaliadwy gyda chynllun gwirioneddol gynaliadwy sy'n diogelu swyddi gwledig ac sydd â diogelwch bwyd wrth wraidd y cynllun.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. 

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn cydnabod bod polisïau Llywodraeth Lafur Cymru dros dymor y Senedd hon wedi arwain at:

a) 18,652 o gartrefi ychwanegol yn cael eu darparu i’w rhentu yn y sector cymdeithasol;

b) 46,000 o swyddi yn cael eu cefnogi;

c) bron i 60 miliwn o brydau ysgol am ddim yn cael eu gweini i blant oed cynradd a gwelliannau diweddar mewn cyrhaeddiad addysgol;

d) y cynnig cymorth mwyaf blaengar a hael i fyfyrwyr yn y DU, sy'n golygu nad yw incwm aelwydydd yn penderfynu i ba brifysgol y bydd myfyrwyr yn mynd;

e) amseroedd aros hir ar gyfer triniaeth a phrofion yn gostwng a'r GIG ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol eleni;

f) coedwig Genedlaethol yn cael ei phlannu a chamau yn cael eu cymryd i ddiogelu cymunedau rhag gwaddol mwyngloddio; a

g) mwy na £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi i drawsnewid llinellau craidd y Cymoedd yn system metro fodern.

3. Yn credu bod Cymru yn barod ar gyfer cyfnod newydd o fuddsoddiad o dan Lafur, yn dilyn mwy na degawd o lymder Torïaidd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.36 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: 

NDM9102Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi etholiad y Senedd sydd i’w gynnal ar 7 Mai 2026. 

2. Yn credu bod etholiad y Senedd yn rhoi cyfle i arwain Cymru o’r newydd. 

3. Yn galw am weithredu cynigion Plaid Cymru i: 

a) cyflwyno cynllun rhestrau aros i glirio'r ôl-groniad presennol, i roi'r GIG ar sylfaen fwy cynaliadwy a sicrhau nad yw cleifion yn aros blynyddoedd mewn poen am driniaeth; 

b) sefydlu asiantaeth ddatblygu genedlaethol newydd, gan ddarparu 'siop un stop' ar gyfer cymorth busnes, gan gefnogi a thyfu busnesau Cymreig ym mhob cam o'u datblygiad; 

c) cyflwyno cynnig gofal plant sy’n darparu o leiaf 20 awr yr wythnos i bob plentyn, gan roi'r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a chaniatáu i rieni ddychwelyd i'r gwaith; 

d) cyflwyno cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol i sefydlu meincnodau cenedlaethol, darparu cefnogaeth wedi'i thargedu, a sicrhau addysgu o ansawdd uchel a thracio cynnydd tryloyw; ac 

e) cyflwyno bil Cymru newydd i sicrhau cydraddoldeb pwerau datganoledig â'r Alban, fel dull angenrheidiol i ddatgloi potensial Cymru. 

4. Yn gresynu bod 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru wedi arwain at: 

a) dros 8,700 o lwybrau gofal yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, er gwaethaf y targed i ddileu amseroedd aros o'r fath yn llwyr erbyn mis Mawrth 2023; 

b) cyfraddau incwm gwario gros isaf y pen ac incwm sylfaenol y pen yng Nghymru sydd yr ail isaf o holl genhedloedd a rhanbarthau'r DU, gyda'r ddau yn gostwng fel cyfran o gyfartaledd y DU; ac 

c) sgoriau PISA Cymru mewn llythrennedd a rhifedd sydd yr isaf erioed ers cymryd rhan yn y rhaglen am y tro cyntaf yn 2006, a'r isaf ymhlith cenhedloedd y DU am y pumed tro yn olynol. 

5. Yn gresynu ymhellach fod partneriaeth mewnpwêrLlafur wedi gadael Cymru i lawr. 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

13 

38 

51 

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 

Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi etholiad y Senedd sydd i’w gynnal ar 7 Mai 2026. 

2. Yn credu bod etholiad y Senedd yn rhoi cyfle i arwain Cymru o’r newydd. 

3. Yn gresynu bod 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi arwain at: 

a) un o bob pedwar o boblogaeth Cymru ar restr aros GIG; 

b) y gyfradd ddiweithdra uchaf a'r cyflog isaf yn y Deyrnas Unedig; 

c) canlyniadau PISA Cymru yn gostwng i'r lefel isaf erioed mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, yr isaf o holl wledydd y DU am y pumed tro yn olynol; 

d) arian trethdalwyr yn cael ei wastraffu ar wariant nad yw'n ddatganoledig ac ehangu'r Senedd; 

e) economi Cymru yn cael ei ddal yn ôl gyda'r cynnig ardrethi busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain Fawr, y terfyn cyflymder 20mya diofyn, a chyfraddau trethtrafodiadautir sy'n mygu'r farchnad dai; 

f) teuluoedd sy'n gweithio yn cael eu taro â'r costau gofal plant uchaf a'r cynnig gofal plant gwaethaf ym Mhrydain Fawr; a 

g) y cynllun ffermio cynaliadwy sy'n peryglu colli swyddi a bywoliaethau. 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i: 

a) datgan argyfwng iechyd yn y GIG yng Nghymru, dileu amseroedd aros gormodol mewn adrannau brys, ar gyfer ambiwlansys, profion a thriniaeth, cyflwyno gwarant aros meddygon teulu, a hyrwyddo dewis cleifion fel sbardun ar gyfer gwella gofal iechyd; 

b) sicrhau bod economi Cymru yn symud drwy dorri'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm, dileu ardrethi busnes i fusnesau bach, adfer y terfyn cyflymder diofyn i 30mya, buddsoddi mewn seilwaith ffyrdd, a dileu'r drethtrafodiadautir ar gyfer prif gartrefi; 

c) gwella deilliannau addysg yng Nghymru drwy adfer disgyblaeth a pharch mewn ysgolion yng Nghymru, bod yn llym ynghylch trais ac ymddygiad gwael, gwahardd ffonau symudol yn ystafelloedd dosbarth Cymru, grymuso athrawon, a galluogi sefydlu ysgolion academi; 

d) rhoi'r gorau i wario arian trethdalwyr ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli, a gwrthdroi ehangu'r Senedd; 

e) cefnogi teuluoedd sy'n gweithio trwy gael cynnig gofal plant cyfatebol i'r hyn sydd ar gael yn Lloegr; ac 

f) dileu a disodli'r cynllun ffermio cynaliadwy gyda chynllun gwirioneddol gynaliadwy sy'n diogelu swyddi gwledig ac sydd â diogelwch bwyd wrth wraidd y cynllun. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

12 

38 

51 

Gwrthodwyd gwelliant 1. 

Gwelliant2Jane Hutt (BroMorgannwg) 

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: 

2. Yn cydnabod bod polisïau Llywodraeth Lafur Cymru dros dymor y Senedd hon wedi arwain at: 

a) 18,652 o gartrefi ychwanegol yn cael eu darparu i’w rhentu yn y sector cymdeithasol; 

b) 46,000 o swyddi yn cael eu cefnogi; 

c) bron i 60 miliwn o brydau ysgol am ddim yn cael eu gweini i blant oed cynradd a gwelliannau diweddar mewn cyrhaeddiad addysgol; 

d) y cynnig cymorth mwyaf blaengar a hael i fyfyrwyr yn y DU, sy'n golygu nad yw incwm aelwydydd yn penderfynu i ba brifysgol y bydd myfyrwyr yn mynd; 

e) amseroedd aros hir ar gyfer triniaeth a phrofion yn gostwng a'r GIG ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol eleni; 

f) coedwig Genedlaethol yn cael ei phlannu a chamau yn cael eu cymryd i ddiogelu cymunedau rhag gwaddol mwyngloddio; a 

g) mwy na £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi i drawsnewid llinellau craidd y Cymoedd yn systemmetrofodern. 

3. Yn credu bod Cymru yn barod ar gyfer cyfnod newydd o fuddsoddiad o dan Lafur, yn dilyn mwy na degawd o lymder Torïaidd. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

26 

25 

51 

Derbyniwyd gwelliant 2. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: 

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. 

Am 17.47, cododd Darren Millar bwynt o drefn i fynd i'r afael â sylw a wnaed gan Rhun ap Iorwerth yn dilyn ymyriad gan Gareth Davies.  

Am 18.55, gofynnodd y Dirprwy Lywydd i Rhun ap Iorwerth a'r holl Aelodau fod yn ofalus o ran yr iaith y maent yn ei defnyddio.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.56 

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM9096 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Codi oedran cyfrifoldeb troseddol i 14 yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.01

NDM9096Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) 

Codi oedran cyfrifoldeb troseddol i 14 yng Nghymru

(60 munud)

11.

Dadl: Cyfnod 3 Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i’w gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau yn codi yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

1. Hyfforddiant ar gyfer aelodau meddygol nad ydynt yn ymarfer

2, 1

Dogfennau ategol

Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth), heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2

Memorandwm esboniadol

Rhestr o welliannau wedi’u didoli

Grwpio gwelliannau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.21 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. 

Derbyniwyd gwelliant 2, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd gwelliant 1, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Barnwyd bod holl adrannau’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben. 

(15 munud)

12.

Dadl: Cyfnod 4 Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.34 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50A, cadarnhaodd y Llywydd nad yw darpariaethau'r Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) yn ymwneud â phwnc gwarchodedig yn ei barn hi. 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.48, cynigodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni bod y Bil yn cael ei basio. 

Cynhaliwyd pleidlais yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

50 

50 

Derbyniwyd y cynnig. 

13.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.41

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: